Pegwn y Gogledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Pegwn daearyddiaethol y gogledd: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
B clean up
Llinell 4:
==Diffiniadau==
===Pegwn daearyddiaethol y gogledd===
Mae pegwn daearyddiaethol y gogledd yn 90 gradd i'r gogledd. Ar yr echel hon mae'r ddaear yn troi. Does dim tir yn y lleoliad hwn, ond fel arfer mae meysydd iâ.
 
Gwnaed y daith gyntaf i begwn daearyddiaethol y gogledd gan [[Robert Peary]], [[Matthew Henson]] a phedwar [[Inuit]], sef [[Ootah]], [[Seegloo]], [[Egingway]] ac [[Ooqueah]]. Credir iddyn nhw gyrraedd ar [[9 Ebrill]], [[1909]] er i rai honni y cyrhaeddon nhw mewn gwirionedd 30 km i'r de. Ym 1926, hedfanodd [[Roald Amundsen]] o [[Norwy]] dros begwn daearyddiaethol y gogledd mewn [[awyrlong]].
[[Delwedd:Polarlicht 2.jpg|bawd|chwith|bawd|chwith|Yr Aurora borealis]]
=== Pegwn magnetaidd y gogledd ===
Mae pegwn magnetaidd y gogledd ar 78°18' i'r gogledd, 104° i'r gorllewin ger [[Ynys Ellef Ringness]], un o'r [[Ynysoedd Queen Elizabeth]] yn [[Canada]]. Dyma lle mae [[cwmpawd]] neu un pen o fagnet yn wynebu. Defnyddir pegwn magnetaidd y gogledd ers [[1600]].
 
Roedd y daith gyntaf i begwn magnetaidd y gogledd gan [[James Clark Ross]]. Cyrhaeddodd y pegwn ar [[1 Mehefin]], [[1831]]. Darganfu [[Roald Amundsen]] i'r pegwn fod mewn lleoliad ychydig yn wahanol ym [[1903]]. Ers hyn, sylweddolwyd i'r pegwn yn flynyddol, tua 40 km pob blwyddyn.
 
=== Pegwn daear-fagnetaidd y gogledd ===
Mae pegwn y gogledd daear-fagnetaidd ar 78°30' i'r gogledd, 69° i'r gorllewin, ger Thule a'r [[Y Lasynys|Lasynys]]. Yma, gellir gweld yr [[Aurora Borealis]].
 
David Hempleman-Adamsaith oedd y cyntaf i gyrraedd y pegwn hwn ym [[1992]].