Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Titan (lloeren)"

Lleihawyd o 7 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: clean up
B (remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|en}} (4) using AWB)
B (→‎top: clean up)
* Cynhwysedd: 1.35e23 kg
 
Ym [[mytholeg Roeg]] roedd y [[Titan (cawr)|Titaniaid]] yn deulu o [[cawr|gewri]], plant [[Wranws (duw)|Wranws]] (y nefoedd) a [[Gaia]] (y [[Ddaear]]). Cawsant eu gorchfygu gan deulu [[Zews]].
 
Darganfuwyd y lloeren hon gan [[Christian Huygens|Huygens]] ym [[1655]].
Mae data newydd oddi wrth y chwiliedydd Huygens -seiliedig ar y darganfyddiad o argon 40 yn yr awyrgylch- yn dangos bod y lloeren wedi profi gweithgaredd folcanig sydd wedi cynhyrchu iâ dŵr ac [[amonia]] yn lle [[lafa]].
 
Felly, er bod yr un prosesau'n digwydd ar y lloeren fel ar y Ddaear, mae'r gemeg yn hollol wahanol. Yn lle dŵr hylifol, mae ganddi fethan hylifol. Yn lle creigiau silicaidd, mae ganddi iâ dŵr rhewedig. Yn lle rhwd, mae ganddi ronynnau [[hydrocarbon]], ac yn lle lafa, mae llosgfynyddoedd Titan yn cynhyrchu iâ oer iawn.
 
Mae yna afonydd a llynnoedd ar y lloeren. Ar hyn o bryd maent yn sych, ond credir iddynt gael eu llenwi'n rheolaidd gan lawogydd methan.
 
Mewn lluniau a dynnwyd ym mis Hydref 2004, roedd wybren Titan yn rhydd o gymylau, ac eithrio o gwmpas pegwn y de. Ond ym mis Rhagfyr 2004 tynnodd Cassini luniau o Titan lle gellir gweld fod sawl clwt eang o gymylau wedi ffurfio. Yn y llun uchod gwelir bod awyrgylch uchaf Titan wedi ei gyfansoddi o nifer fawr o haenau tawch.
 
 
 
 
 
 
[[Categori:Lloerennau Sadwrn]]
420,642

golygiad