Cygnus (cytser): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CamWrthGam (sgwrs | cyfraniadau)
B Cywiro camgymeriad, efallai camgymeriad teipio.
B clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Cygnus_constellation_map.svg | 380px | bawd | Cytser Cygnus yn dangos sêr sydd yn weladwy i'r llygad noeth, a hefyd, yn llwydlas, y Llwybr Llaethog]]
 
[[Cytser]] yw '''Cygnus''' sy'n cynnwys rhan ogleddol o'r [[Llwybr Llaethog]] yn yr awyr nos. Mae'r enw yn golygu ‘[[alarch]]’ yn [[Lladin]], ac yn cael ei ynganu fel y Gymraeg ‘''signws''’. Oherwydd nifer o sêr eithaf disglair sy'n weladwy i'r llygad noeth, mae Cygnus yn rhan nodedig o'r wybren yn ystod nosweithiau'r haf o'r hemisffêr y gogledd y byd.
 
[[Delwedd:Atlas_Coelestis-11.jpg | 380px | bawd | Cytser Cygnus fel alarch yn hedfan mewn fersiwn Ffrengig 1776 o ''Atlas Coelestis'' y seryddwr John Flamsteed]]
 
<!-- [[Delwedd:Dk0308-01-cygnus.jpg | 380px | bawd | Llun eang yn dangos y Llwybr Llaethog yn ardal cytser Cygnus]] -->
Llinell 26:
 
==Natur y cytser==
[[Delwedd:Albireo.jpg | 200px | bawd | Seren ddeuol ''Albireo'', neu ''&beta; Cygni'', recordiwyd trwy delesgop yn dangos y ddwy seren gyda lliwiau gwahanol]]
 
I'r llygad noeth, mae sêr disglair Cygnus yn amlinellu siâp croes gyda'r seren ddisgleiriaf, ''Deneb'' neu ''Alffa Cygni'' (α Cyg), wrth ben y groes. Mae Deneb a'r sêr disglair Vega ac Altair yng nghytserau cyfagos yn ffurfio triongl yn y wybren. Ar droed y groes, neu ben yr alarch, ''mae Albireo'', ''Beta Cygni'' (β Cyg), sydd yn seren ddwbl, hawdd i'w hymwahanu mewn telesgop bach. O ddiddordeb y mae'r ffaith bod gan y ddwy seren liwiau gwahanol, un yn oren a'r llall yn las.<ref name="burnham1978"/>
 
Mae'r enwau hyn yn deillio o hen enwau, neu ddisgrifiadau, [[Arabeg|Arabaidd]], a maen nhw'n cael eu defnyddio mewn ambell iaith.<ref name="enwau_ser_iau"> {{cite web
| author = IAU Division C Working Group on Star Names
| author-url = http://www.pas.rochester.edu/~emamajek/WGSN/
Llinell 40:
Mae'r [[Yr wyddor Roeg|llythrennau Groeg]] α (Alffa), β (Beta), ac ati, yn cael eu defnyddio hefyd yn ôl cyfundrefn yr hen seryddwr Almaeneg Johann Bayer. ''Cyg'' ydy'r talfyriad swyddogol yr Undeb Seryddol Rhyngwladol am y cytser. Defnyddnir ''Cygni'' gyda'r lythyren Roeg Bayer i olygu bod seren yn perthyn i'r cytser yn ôl rheolau gramadeg Lladin.
 
[[Delwedd:CSSP_Cygnus_Combine1B_NR.jpg | 380px | bawd | Llun eang o Cygnus yn dangos nifer o nifylau (pinc) a chymylau o nwy a llwch oer (tywyll)]]
 
Mae'r cyhydedd galaethol, sef gwastadeddd canolog [[yr Alaeth]], yn mynd trwy ganol y cytser. Felly mae'r [[Llwybr Llaethog]] yn llenwi Cygnus, ac o ganlyniad mae nifer fawr o [[clwstwr sêr|glystyrau sêr]] a [[nifwl|nifylau]] i'w gweld ynddo. Mae'r Llwybr Llaethog yn ddisglair yn y rhan hon o'r wybren, ac yn afreolaidd mewn lleoedd oherwydd presenoldeb cymylau o nwy a llwch oer sydd yn amsugno golau sêr sydd tu ôl iddynt.
 
==Clystyrau sêr, nifylau a ffurfiant sêr==
[[Delwedd:NGC7000_North_America_Nebula.jpg | 380px | bawd | Delwedd o ''Nifwl Gogledd America'' (canol) a'r ''Nifwl Pelican'' (ar y dde) wedi'i greu o ffotograffau o delesgopau arolwg]]
[[Delwedd:The_Veil_Nebula.jpg | 380px | bawd | Rhan o ''Nifwl y Llen'', gweddill uwchnofa]]
 
Mae Cygnus yn rhan o'r Llwybr Llaethog lle mae cymylau o nwy oer yn crebachu dan eu [[disgyrchiant]] eu hunain i ffurfio sêr. Mae'r sêr newydd hyn yn ffurfio mewn clystyrau. Ymhlith y clystyrau sêr yn Cygnus, ''Messier 39'' (M39, neu NGC 7092) a ''Messier 29'' (M29, neu NGC 6913) yw'r fwyaf adnabyddus.<ref name="burnham1978"/>