Brwydr Actium: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ymladdwyd '''Brwydr Actium''', [[2 Medi]], [[31 CC]], rhwng llynges [[Augustus|Octavianus]] dan ei gadfridog [[Marcus Vipsanius Agrippa]] a llynges [[Marcus Antonius]] a [[Cleopatra]], brenhines [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]].
 
Ymladdwyd y frwydr ger [[Gwlff Actium]], ar arfordir [[Gwlad Groeg]]. Ceisiodd Antonius, gyda tua 500 o longau rhyfel, dorri trwy lynges Agrippa i gyrraedd y môr agored. Llwyddodd Antonius a Cleopatra eu hunain i ddianc, ond suddwyd nifer fawr o'u llongau.
 
Roedd y frwydr yma yn dyngedfennol. Dechreuodd byddin Antonius ei adael wedi clywed am y newyddion am Actium. Lladdodd Antonius a Cleopatra eu hunain y flwyddyn ganlynol, [[30 CC]]. Daeth Octavianus yn rheolwr Rhufain, gan gymeryd y teitl [[Princeps]] ("Dinesydd cyntaf") a'r enw "Augustus". Gyda hyn, daeth [[Gweriniaeth Rhufain]] i ben, a dechreuodd [[yr Ymerodraeth Rufeinig]].