Crymlyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
pont
Llinell 23:
:''Erthygl am y dref ym mwrdeisdref sirol Caerffili yw hon. Ceir mannau eraill sy'n dwyn yr enw 'Crymlyn' drwy Gymru.''
 
Tref a [[cymuned (llywodraeth leol)|chymuned]] ym mwrdeisdref sirol [[Caerffili]] yn ne Cymru yw '''Crymlyn''' ([[Saesneg]]: ''Crumlin''). Saif yn nyffryn [[Afon Ebwy]], bum milltir i'r gorllewin o dref [[Pont-y-pŵl]], o fewn dim i'r ffin gyda [[Sir Fynwy]].
 
Mae'r dref yn enwog am y bont reilffordd, a agorwyd yn [[1857]] ac a gaewyd yn 1964. Hon oedd y bont reilffordd uchaf ym Mhrydain ar hyd y cyfnod yma; roedd yn 220 troedfedd o uchder a 1,650 troedfedd o hyd. Bu raid chwalu'r bont yn 1967, gan ei bod mewn cyflwr peryglus. Cyn ei dymchwel, ffilmiwyd golygfeydd ar gyfer y ffilm ''[[Arabesque (ffilm)|Arabesque]]'' gyda [[Sophia Loren]] a [[Gregory Peck]].
Llinell 30:
 
==Geirdarddiad==
Gair cyfansawdd yw 'Crymlyn' (a'r hen sillafiad 'Crymlin' a 'Chrimlyn'): 'crwm' a 'llyn' (llyn gyda thro), ac fe'i nodwyd yn gyntaf yn 1630.<ref>''Dictionary of the Place-names of Wales''; Gomer (2008) tud. 106.</ref> Daw'r enw o enw fferm, a phont dros afon [[Ebwy]], a leolir ger tro yn yr afon; cofnodir yr enw ""Pont Grymiyn" yn 1631.

Ceir "Tyddyn Crymlyn" yn [[Arfon]], "Pont Grymlyn" a "Rhyw Crynlin" ger [[Tredegar]], a "CremelynChremelyn" (1319) a "Thir Pont Crimlin" ym [[Bro Morgannwg|Mro Morgannwg]].<ref>[http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/cronfa.aspx Archif Melville Richards]; adalwyd 15 Mawrth 2017.</ref>
 
==Cyfrifiad 2011==