Sejanus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 4:
Pennaeth [[Gard y Praetoriwm]] ac un o'r dynion mwyaf grymus yn [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] oedd '''Lucius Aelius Seianus''' neu '''Sejanus''' ([[20 CC]] - [[18 Hydref]], [[31|31 OC]]).
 
Ganed Sejanus yn [[20 CC]] yn [[Volsinii]] yn [[Etruria]]. Daeth yn bennaeth Gard y Praetoriwm dan yr ymerawdwr [[Augustus]] yn y flwyddyn [[14]] OC, a bu yn y swydd hyd ei farwolaeth yn [[31]]. Dano ef, daeth y Gard i fod yn fwy na gwarchodlu, gan ddatblygu i fod o bwysigrwydd gwleidyddol mawr. Yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Tiberius, cynyddodd grym Sejanus. Yn y 20au cafodd ware o nifer o bobl oedd yn bygwth ei sefyllfa, yn cynnwys mab yr ymerawdwr, [[Julius Caesar Drusus]], a gafodd ei wenwyno. Pan ymddeolodd Tiberius i ynsynys [[Capri]] yn [[26]], Sejanus oedd yn rheoli'r ymerodraeth i bob pwrpas.
 
Yn [[31]] fe'i gwnaed yn [[Conswl Rhufeinig|Gonswl]], ond yr un flwyddyn daeth dan amheuaeth o gynllwynio yn erbyn yr ymerawdwr. Fe'i cymerwyd i'r ddalfa, a dienyddiwyd ef a nifer o'i ddilynwyr.