Vitellius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dyddiadau
Llinell 1:
'''Aulus Vitellius''' (7 neu 24 Medi [[12]] neu [[15| 15 OC]] OC - [[20 Rhagfyr]] [[69|69 OC]]) oedd y trydydd o bedwar [[Ymerodraeth Rufeinig|ymerawdwr Rhufain]] yn ystod [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]].
 
Perthynai Vitellius i deulu amlwg yn [[Rhufain]], a daeth yn [[Conswl Rhufeinig|Gonswl]] yn [[48|48 OC]]. Yn ystod teyrnasiad [[Nero]] penodwyd ef yn Broconswl talaith [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]], Yn y flwyddyn [[68|68 OC]] penododd yr ymerawdwr [[Galba]] ef yn bennaeth y fyddin yn nhalaith [[Germania Inferior]]. Cynorthwyodd ei filwyr i orchfygu gwrthryfel gan [[Vindex|Julius Vindex]], ond yr oedd y milwyr yn teimlo nad oeddynt wedi cael y diolch dyledus gan Galba am wneud hyn. Ar [[2 Ionawr]] [[69]] cyhoeddwyd Vitellius yn ymerawdwr gan ei [[Lleng Rufeinig|lengoedd]]. Yn fuan wedyn cychwynodd y fyddin am Rufain.
 
Ym [[Brwydr gyntaf Bedriacum|mrwydr gyntaf Bedriacum]], gorchfygodd byddin Vitellius lengoedd [[Otho]], oedd wedi disodli Galba fel ymerawdwr. Yn dilyn [[hunanladdiad]] Otho, aeth Vitellius ymlaen i Rufain fel ymerawdwr. Erbyn hyn yr oedd cystadleuydd arall am yr ymerodraeth. Yr oedd y llengoedd yn nhlaleithiau [[Judea]] a [[Syria]] wedi cyhoeddi [[Vespasian|Titus Flavius Vespasianus]] yn ymerawdwr, a chychwynodd llengoedd y dwyrain tua Rhufain i geisio ennill yr orsedd i Vespasian. Gorchfygwyd llengoedd Vitellius gan fyddin dan arweiniad [[Antonius Primus]] yn [[ail frwydr Bedriacum]]. Aeth byddin Primus ymlaen i Rufain, lle lladdwyd Vitellius. Daeth Vespasian yn ymerawdwr yn ei le.