Vespasian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dyddiadau
Llinell 10:
}}
 
'''Titus Flavius Vespasianus''' ([[17 Tachwedd]] [[9|9 OC]] - [[23 Mehefin]] [[79|79 OC]]) oedd y pedwerydd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufeinig]] i deyrnasu yn ystod [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]], a'r unig un o'r pedwar i fedru cadw ei afael ar yr orsedd. Teyrnasodd hyd 23 Mehefin 79. Ei enw gwreiddiol oedd ''Titus Flavius Vespasianus'' ond wedi iddo ddod yn ymerawdwr cymerodd yr enw ''Caesar Vespasianus Augustus''.
 
Ganed Vespasian yn [[Falacrina]], yn aelod o deulu gweddol gefnog ond ymhell o fod yn amlwg. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf nad oedd yn dod o deulu aristocrataidd. Gwasanaethoedd Vespasian fel tribwn militaraidd yn [[Thrace]] pan oedd [[Tiberius]] yn ymerawdwr, a bu'n [[Praetor]] yn y flwyddyn 40 dan [[Caligula]]. Yn y blynyddoedd 43 a 44, pan oresgynnwyd [[Prydain]] yn nheyrnasiad [[Claudius]], yr oedd Vespasian yn legad y lleng [[Legio II Augusta]]. Yn ddiweddarach gwnaed ef yn [[Conswl Rhufeinig|Gonswl]] ac wedyn yn Broconswl talaith [[Africa (talaith Rufeinig)|Affrica]].