Pertinax: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Bust of the consul Gaius Fulvius Plautianus at Museo Pio-Clementino 2.jpg|bawd|dde|230px|Pertinax]]
 
'''Publius Helvius Pertinax''' ([[1 Awst]] [[126]] - [[28 Mawrth]] [[193]]) oedd [[Rhestr ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] rhwng [[31 Rhagfyr]] [[192]] a'i farwolaeth.
 
Dechreuodd ei yrfa fel athro [[gramadeg]], ond yn ddiweddarach penderfynodd chwilio am yrfa oedd yn talu'n well a daeth yn swyddog yn y fyddin Rufeinig. Daeth i amlygrwydd yn ystod y rhyfel yn erbyn y [[Parthia]]id ac yn ddiweddarach ym [[Prydain|Mhrydain]], lle bu'n dribiwn militariadd lleng VI ''Victrix'', ar [[Afon Donaw]] ac yn [[Dacia]]. Dan deyrnasiad [[Marcus Aurelius]] amharwyd ar ei yrfa gan gynllwynion yn y palas ymerodrol, ond daeth i amlygrwydd eto pan alwyd ef i gynorthwyo mewn rhyfel yn erbyn y [[Germaniaid]]. Cyn 185 yr oedd eisoes wedi bod yn rhaglaw taleithiau [[Moesia]] (uchaf ac isaf), [[Dacia]], [[Syria]] a [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|Britannia]].