Gordian III: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Image:DSC00239 - Gordiano III - Meta del sec. III d.C bis. - Foto di G. Dall'Orto.jpg|dde|bawd|170px|Gordian III. Amgueddfa Archaeolegol Palermo, Yr Eidal]]
 
'''Marcus Antonius Gordianus''' ([[20 Ionawr]] [[225]] - [[11 Chwefror]] [[244]]), a adnabyddir fel '''Gordian III''', oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[238]] hyd [[244]]
 
Ganed Gordian III yn fab i [[Antonia Gordiana]], hithau'n ferch i [[Gordian I]] a chwaer i [[Gordian II]]. Yr oedd Gordian I, oedd yn broconswl [[Africa (talaith Rufeinig)|Affrica]], wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr [[Maximinus Thrax]], wedi ei gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr ac wedi ei gadarnhau gan y [[Senedd Rhufain|Senedd]] fel ymerawdwr. Cymerodd ei fab, Gordian II, fel cyd-ymerawdwr. Fodd bynnag gorchfygwyd hwy gan lengoedd oedd yn parhau'n deyrngar i Maximinus. Lladdwyd Gordian II ar faes y gad, a lladdodd ei dad ei hun.