Claudius II: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Claudius Aurelius Marcus Gothicus''' neu '''Claudius II''' ([[214]]-[[270]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[268]] hyd 270. Er iddo deyrnasu am lai na dwy flynedd, bu'n llwyddiannus ac yn boblogaidd iawn.
 
Mae'n aneglur ymhle y ganed Claudius, efallai Sirmium (yn [[Pannonia]] Inferior) neu Dardania (yn [[Moesia]] Superior). Yn 268 yr oedd yr ymerodraeth mewn perygl o sawl tu, yn enwedig yn [[Iliricum]] a [[Pannonia]] lle roedd y [[Gothiaid]] yn ymosod. Enillodd Claudius un o fuddugliaethau pwysicaf y fyddin Rufeinig. Ym mrwydr [[Naissus]] gorchfygodd Claudius a'i lengoedd fyddin fawr y Gothiaid, gyda chymorth cadfridog arall, [[Aurelian]], a ddaeth yn ymerawdwr ei hun yn ddiweddarach. Taflwyd y Gothiaid yn ôl tros [[Afon Donaw]] a bu tros ganrif cyn iddynt fod yn berygl i'r ymerodraeth eto. Ychydig cyn hynny yr oedd wedi gorchfygu'r [[Alemanni]] oedd wedi croesi'r [[Alpau]] i ymosod ar yr ymerodraeth.