Diwydiant copr Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
llun
Llinell 1:
Mae hanes '''diwydiant copr Cymru''' yn mynd yn ôl i [[Oes yr Efydd]]. [[Copr]] yw'r prif fetel mewn [[efydd]], gyda ychydig o [[Tun|dun]] wedi ei ychwanegu i'w galedu. Mae olion cloddfeydd copr o'r cyfnod yma wedi eu darganfod yng [[Afon Ystwyth|Nghwmystwyth]], [[Mynydd Parys]] ar [[Ynys Môn]] ac yn arbennig ar [[Pen y Gogarth|Ben y Gogarth]] ger [[Llandudno]], lle roedd siafftiau hyd at ddyfnder o 70 medr. Dechreuwyd mwyngloddio [[copr]] ar Ben y Gogarth tua 4000 o flynyddoedd yn ôl, ac mae mwy na phedair milltir o dwneli ac ogofâu wedi'u cloddio yn ystod Oes yr Efydd, pan ddefnyddiwyd [[craig igneaidd|cerrig igneaidd]] yn ogystal ag esgyrn [[buwch|gwartheg]], [[dafad|defaid]], [[gafr|geifr]] ac ati fel offer cloddio. Mae'n bosibl i gopr gael ei allforio o Ben y Gogarth i gyfandir [[Ewrop]] hyd yn oed, yn ystod yr Oes Efydd.
 
[[Delwedd:Parys Mountain Wikipedia.jpg|250px|bawd|[[Mynydd Parys]]]]
Bu'r Rhufeiniaid hefyd yn cloddio am gopr, er enghraifft ar Fynydd Parys a Phen y Gogarth.
Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr ym Mynydd Parys yn [[1768]], gan ddarganfuwyd gwythïen fawr o gopr yma. Erbyn y [[1780au]] Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn [[1778]] roedd y cwmni yn cael ei redeg gan [[Thomas Williams, Llanidan]], a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod.