Penllyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu
Llinell 3:
==Cantref Penllyn==
Yn [[Oes y Tywysogion]] [[cantref]] oedd [[Penllyn]]. Cynhelid ei lys yn [[Caer Gai|Nhgaer Gai]], ger [[Llyn Tegid]], ond yn ddiweddarach fe'i symudwyd i'r [[Y Bala|Bala]]. Roedd yn gantref ar y ffin rhwng [[teyrnas Gwynedd]] a [[Teyrnas Powys|Phowys]]. Ymddengys iddo ddechrau fel [[arglwyddiaeth]] annibynnol. Cysylltir yr arwr chwedlonol [[Gronw Pebyr]] â Phenllyn ym [[Math fab Mathonwy|Mhedwaredd Gainc]] [[Pedair Cainc y Mabinogi|y Mabinogi]]. Aeth yn rhan o deyrnas Powys yn y cyfnod cynnar. Roedd yn fan o bwys strategol yn gorwedd rhwng [[Ardudwy]] a [[Meirionnydd]] yn y gorllewin a [[Glyndyfrdwy]] yn y dwyrain a cheisiai tywysogion Gwynedd sicrhau meddiant arno er mwyn amddiffyn Gwynedd o ymosodiadau o du Powys a'r dwyrain. Fe'i cipiwyd yn derfynol gan [[Llywelyn Fawr]] ar ddechrau'r [[13eg ganrif]]. Ar ôl goresgyniad [[1284]] fe'i unwyd â Meirionnydd ac Ardudwy i greu [[Sir Feirionnydd]].
 
Ymrennid Penllyn yn ddau [[cwmwd|gwmwd]]:
*[[Is Tryweryn]]
*[[Uwch Tryweryn]]
 
==Rhai o enwogion Penllyn==