Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dylunio"

Lleihawyd o 2 feit ,  3 blynedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
Gall astudio natur ac effaith dylunio fod yn ddi-ddal. Does dim iaith dylunio unedig na chorff unedig o ddylunwyr o bob disgyblaeth. Gall llwyddiant achosi disgwyliadau uwch fel ym mhob maes, ond yn nylunio yn arbennig does dim modd o fesur y llwyddiant.
 
Mae nifer fawr o athroniaethau sy'n tywys dylunio a gwerthoedd dylunio, gan fod agweddau gwahanol ar gyfer pob elfen o ddylunio, ac ar gyfer pob ffordd o feddwl a phob dylunydd unigol.<ref>Holm, Ivar (2006). ''Ideas and Beliefs in Architecture and Industrial design: How attitudes, orientations and underlying assumptions shape the built environment''. Oslo School of Architecture and Design. ISBN 8254701741.</ref> Defnyddir athroniaeth dylunio ar gyfer penderfynu targedau. Gall targed dylunio fod yn rhywbeth megis datrys problemau unigol pwysig yr elfen lleiaf, hyd at targedau dylanwadol, hynod o holistig a delfrydol. Defnyddir targedau fel arfer er mwyn tywys dylunio, er gall hyn gwrth-ddweud y targedau syml, ac arwain at gwestiynnugwestiynu pwrpas y dylunio. Dros amser hir, fe all hyn wella safon y dylunio.
 
=== Y Broses Ddylunio ===
Ystyrir ddylunio'n aml yn ffurf fwy llym o [[Arlunio]], neu yn Arlunio gyda phwrpas penodedig. Gwelir y gwahaniaethu yn bennaf pan mai rhywyn heblaw'r arlunydd sy'n penderfynu'r pwrpas. Mewn [[Graffeg]], gwelir y gwahaniaethu yn aml rhwng [[Celf gain]] a [[Celf masnachol|Chelf masnachol]].
 
Ystyrir [[peiriannu]]'n aml yn ffurf fwy llym o ddylunio. Gellid dadlau fod peiriannu a dylunio yn rhan o'r un broses neu dim ond yn rhannu elfennau, gan ddibynnu ar ddisgyblaeth y dylunio. Mae'r ddau yn ffurf o ddatrys problemau, gyda'r diffiniad rhwng y ddau yn bodoli yn y defnydd o sylfaenau gwyddonol a mathemategol mewn peiriannu. Gall faint o wyddoniaeth a dylunio a ddefnyddir gwestiynnugwestiynu os yw'r broses yn un o beirianneg neu wyddoniaeth; o fath cymdeithasol neu naturiol.
 
Mae'r berthynas rhwng dylunio a chynhyrchu yn un o gynllunio a gweithredu. Mewn damcan dylai'r cynllun ragweld a iawndalu unrhyw broblemau a godai yn ystod y broses. Mae dylunio yn cynnwys bod yn greadigol a datrys problemau, mae cynhyrchu ar y llaw arall, yn broses a gynllunwyd o flaen llaw. Mae peirianwyr a chynhyrchwyr fel arfer yn gweithio tuag at creu cynllun y dylunwyr, er mae disgwyl i ddyluwr gael syniad da o weithrediad y broses o beiriannu a chynhyrchu, iddynt allu dylunio yn fwy effeithlon.
2,315

golygiad