Vitellius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Aulus Vitellius''' (7 neu 24 Medi [[12]] neu [[15| 15 OC]] – [[20 Rhagfyr]] [[69|69 OC]]) oedd wythfed [[Ymerodron Rhufeinig|Ymerawdwr Rhufain]]. Yr oedd y trydydd o bedwar ymerawdwr yn ystod [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]] (69 OC).
 
Perthynai Vitellius i deulu amlwg yn [[Rhufain]], a daeth yn [[Conswl Rhufeinig|Gonswl]] yn [[48|48 OC]]. Yn ystod teyrnasiad [[Nero]] penodwyd ef yn Broconswl talaith [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]], Yn [[68|68 OC]] penododd yr ymerawdwr [[Galba]] ef yn bennaeth y fyddin yn nhalaith [[Germania Inferior]]. Cynorthwyodd ei filwyr i orchfygu gwrthryfel gan [[Vindex|Julius Vindex]], ond yr oedd y milwyr yn teimlo nad oeddynt wedi cael y diolch dyledus gan Galba am wneud hyn. Ar [[2 Ionawr]] [[69]] cyhoeddwyd Vitellius yn ymerawdwr gan ei [[Lleng Rufeinig|lengoedd]]. Yn fuan wedyn cychwynodd y fyddin am Rufain.