Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: clean up |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Vespasian 01.jpg|bawd|250px|Vespasian; yr olaf o'r pedwar ymerawdwr.]]
'''Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr''' oedd y flwyddyn [[69|69 OC]]
Dechreuodd y flwyddyn gyda Galba yn ymerawdwr. Roedd wedi ei enwi'n ymerawdwr gan [[Senedd Rhufain]] yn dilyn hunanladdiad [[Nero]] y flwyddyn flaenorol. Roedd Galba'n oedrannus a heb blant, felly roedd angen iddo enwi etifedd. Roedd [[Otho]] wedi disgwyl cael ei enwi'n etifedd, ond mabwysiadodd Galba Calpurnius Piso Licinianus fel mab a'i enwi'n etifedd. Ymatebodd Otho trwy gynllwynio gyda milwyr o [[Gard y Praetoriwm]] i wrthryfela yn erbyn Galba. Bu'r gwrthryfel yn llwyddiannus, a lladdwyd Galba a Piso. Cyhoeddwyd Otho yn ymerawdwr.
|