Germanicus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Germanicus.jpg|bawd|200px|Germanicus.]]
 
Cadfridog [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeinig]] oedd '''Germanicus Julius Caesar Claudianus''' ([[24 Mai]] [[15 CC]] - [[10 Hydref]], [[19|19 OC]]). Ei enw gwreiddiol oedd '''Nero Claudius Drusus''' neu '''Tiberius Claudius Nero'''; cymerodd yr enw '''"Germanicus"''' yn [[9 CC]], pan gafodd ei dad yr enw i gydnabod ei fuddugoliaethau yn [[Germania]].
 
Tad Germanicus oedd y cadfridog [[Nero Claudius Drusus]], mab yr ymerodres [[Livia]] Drusilla, trydydd gwraig yr ymerawdwr [[Augustus]]. Ei fam oedd [[Antonia Minor]], merch [[Marcus Antonius]] ac [[Octavia Minor]], chwaer Augustus. Roedd ganddo un chwaer, [[Livilla]], ac un brawd, [[Claudius]], a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarach.