Penmaen-mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

bryn (384.6m) ym Mwrdeistref Sirol Conwy
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 300px|bawd|Mynydd Penmaen-mawr o'r dwyrain, gyda phentref Penmaenmawr wrth ei droed :''Erthygl am y mynydd o'r enw Penmaen-mawr yw hon. Am y pentref gwel...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:08, 20 Tachwedd 2007

Mynydd gwenithfaen ym mwrdeistref sirol Conwy yw'r Penmaen-mawr. Saif ar arfordir gogledd Cymru rhwng Penmaenmawr i'r dwyrain a Llanfairfechan i'r gorllewin. Ers gwawr hanes mae pobl wedi defnyddio carreg y mynydd. Datblygwyd chwarel fawr arno yn y 19eg ganrif ac mae olion y gwaith yn creithio ei lethrau o hyd, er bod ymdrech i adfer yr amgylchedd wedi bod. Enwir pentref Penmaenmawr ar ôl y mynydd. Ei uchder presennol yw tua 1,100'.

Mynydd Penmaen-mawr o'r dwyrain, gyda phentref Penmaenmawr wrth ei droed
Erthygl am y mynydd o'r enw Penmaen-mawr yw hon. Am y pentref gweler Penmaenmawr.

Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o Oes Newydd y Cerrig ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn cyn eu hallforio. Ychydig i'r de-ddwyrain o'r mynydd ceir y Meini Hirion ("Druid's Circle"), sy'n un o'r cylchoedd cerrig cynhanesyddol gorau yng Nghymru. Mae nifer o olion hen gytiau i'w gweld hefyd, ynghyd â meini hirion unigol a thwmpathau claddu.

Ar un adeg roedd copa'r Penmaen-mawr yn 1,500 troedfedd uwchben lefel y môr ond mae wedi cael ei dorri i lawr cryn dipyn gan waith chwarel dros y blynyddoedd. Coronid y gopa gan Braich-y-Dinas, a oedd un o'r bryngaerau fwyaf o gyfnod Oes yr Haearn yng Nghymru ac Ewrop, cyffelyb i Dre'r Ceiri yn ardal Trefor yn Llŷn; gwaetha'r modd dinistriwyd yr olion olaf yn y 1920au ac nid oes dim yn aros ohoni heddiw.

Datblygwyd gwaith chwarel ar y mynydd yn y 19eg ganrif. Daeth Cwmni Gwenithfaen Cymreig Penmaenmawr (Penmaenmawr Welsh Granite Co.) yn un o'r rhai mwyaf o'i fath yn y byd. Ar un adeg bu dros fil o ddynion yn gweithio yno a datblygodd pentrefi chwarel Penmaenmawr a Llanfairfechan yn gyflym wrth i weithwyr o sawl rhan o ogledd-orllewin Cymru, ond yn enwedig o Arfon a Môn, heidio yno i gael gwaith. Bu gan y chwarel berthynas glos â Chwarel Trefor, hithau'n chwarel gwenithfaen. Erbyn heddiw dim ond tuag ugain o bobl sy'n gweithio yn y chwarel.

Am ganrifoedd bu'r mynydd yn rhwystr i deithwyr a arswydai rhag croesi'r llethrau syrth creigiog rhwng y ddau bentref. Heddiw mae ffordd yr A55 yn mynd o dano trwy ddau dwnel mawr.