Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Penmaen-mawr"

Ychwanegwyd 208 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B (llyfr)
BNo edit summary
[[Delwedd:Penmaen-mawr.JPG|300px|bawd|Mynydd Penmaen-mawr o'r dwyrain, gyda phentref Penmaenmawr wrth ei droed]]
:''Erthygl am y mynydd o'r enw Penmaen-mawr yw hon. Am y pentref gweler [[Penmaenmawr]].''
Mynydd [[gwenithfaen]] ym mwrdeistref sirol [[Conwy (sir)|Conwy]] yw'r '''Penmaen-mawr'''. Saif ar arfordir [[gogledd Cymru]] rhwng [[Penmaenmawr]] i'r dwyrain a [[Llanfairfechan]] i'r gorllewin. Ers gwawr hanes mae pobl wedi defnyddio carreg y mynydd. Datblygwyd [[chwarel]] fawr arno yn y [[19eg ganrif]] ac mae olion y gwaith yn creithio ei lethrau o hyd, er bod ymdrech i adfer yr amgylchedd wedi bod. Enwir pentref [[Penmaenmawr]] ar ôl y mynydd. Ei uchder presennol yw tua 1,100'.
 
[[Delwedd:Penmaen-mawr.JPG|300px|bawd|Mynydd Penmaen-mawr o'r dwyrain, gyda phentref Penmaenmawr wrth ei droed]]
 
Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o [[Oes Newydd y Cerrig]] ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger [[Prestatyn]] cyn eu hallforio. Ychydig i'r de-ddwyrain o'r mynydd ceir y [[Meini Hirion Penmaenmawr|Meini Hirion]] ("Druid's Circle"), sy'n un o'r [[cylch cerrig|cylchoedd cerrig]] [[cynhanes]]yddol gorau yng Nghymru. Mae nifer o olion hen gytiau i'w gweld hefyd, ynghyd â meini hirion unigol a thwmpathau claddu.
 
Am ganrifoedd bu'r mynydd yn rhwystr i deithwyr a arswydai rhag croesi'r llethrau syrth creigiog rhwng y ddau bentref. Heddiw mae ffordd yr [[A55]] yn mynd o dano trwy ddau dwnel mawr.
 
==Hen Rigwm==
:Mae genni iâr yn gori
:Ar ben y Penmaen-mawr;
:Mi es i droed yr Wyddfa
:I alw hon i lawr;
:Mi hedodd ac mi hedodd
:A'i chywion gyda hi,
:Hyd eitha tir Iwerddon,
:Good morrow, John. How dee!
 
==Darllen pellach==