Prestatyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Hanes: bwyeill
Llinell 11:
 
==Hanes==
Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o [[Oes Newydd y Cerrig]] ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r [[Penmaen-mawr]]. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn i gael eu gweithio cyn eu hallforio.
Bu'r [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeiniaid]] yn weithgar yn ardal Prestatyn. Roedd ganddynt wersyll yno ar gyfer mwyncloddio am [[plwm|blwm]]. Gellir gweld rhai gwrthrychau o'r cyfnod Rhufeinig yn y llyfrgell leol. Roedd [[Clawdd Offa]] yn cychwyn ger safle Prestatyn, ond er bod [[Llwybr Clawdd Offa]] yn cychywn/gorffen yno nid oes llawer o'r clawdd ei hun i'w weld. Bu'r llecyn ym meddiant [[Mercia]] am gyfnod yn yr [[Oesoedd Canol Cynnar]], ac mae'r enw Prestatyn ("Tref yr Offeiriad") yn dyddio o'r dyddiau hynny. Ond arosodd Prestatyn yn bentref bychan dinod tan ganol y [[19eg ganrif]] a datblygiad [[twristiaeth]] yn y rhan yma o ogledd Cymru gyda dyfodiad y rheilffordd.