Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Penmaen-mawr"

Ychwanegwyd 320 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
(ehangu)
 
[[Delwedd:Penmaen-mawr.JPG|300px|bawd|Mynydd Penmaen-mawr o'r dwyrain, gyda phentref Penmaenmawr wrth ei droed]]
[[Delwedd:Penmaenmawr_Prom_001.JPG|300px|bawd|Fel y bu: golygfa ar y mynydd o rodfa môr Penmaenmawr, tua 1910]]
 
Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o [[Oes Newydd y Cerrig]] ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r Penmaen-mawr. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger [[Prestatyn]] cyn eu hallforio. Ychydig i'r de-ddwyrain o'r mynydd ceir y [[Meini Hirion Penmaenmawr|Meini Hirion]] ("Druid's Circle"), sy'n un o'r [[cylch cerrig|cylchoedd cerrig]] [[cynhanes]]yddol gorau yng Nghymru. Mae nifer o olion hen gytiau i'w gweld hefyd, ynghyd â meini hirion unigol a thwmpathau claddu.
 
Ar un adeg roedd copa'r Penmaen-mawr yn 1,500 troedfedd uwchben lefel y môr ond mae wedi cael ei dorri i lawr cryn dipyn gan waith chwarel dros y blynyddoedd. Coronid y gopa gan [[Braich-y-Dinas]], a oedd un o'r [[bryngaer]]au fwyaf o gyfnod [[Oes yr Haearn]] yng Nghymru ac Ewrop, cyffelyb i [[Tre'r Ceiri|Dre'r Ceiri]] yn ardal [[Trefor]] yn [[Llŷn]]; gwaetha'r modd dinistriwyd yr olion olaf yn y 1920au ac nid oes dim yn aros ohoni heddiw.
 
Datblygwyd gwaith chwarel ar y mynydd yn y 19eg ganrif. Daeth Cwmni Gwenithfaen Cymreig Penmaenmawr (''Penmaenmawr Welsh Granite Co.'') yn un o'r rhai mwyaf o'i fath yn y byd. Ar un adeg bu dros fil o ddynion yn gweithio yno a datblygodd pentrefi chwarel Penmaenmawr a Llanfairfechan yn gyflym wrth i weithwyr o sawl rhan o ogledd-orllewin Cymru, ond yn enwedig o [[Arfon]] a [[Môn]], heidio yno i gael gwaith. Bu gan y chwarel berthynas glos â [[Chwarel Trefor]], hithau'n chwarel gwenithfaen. Allforid cerrig ithfaen i borthfeydd fel [[Lerpwl]] a dinasoedd Lloegr gan y rheilffordd a hefyd ar y môr o ddau jeti'r chwarel i Lerpwl eto ac i nifer o borthfeydd ar y cyfandir fel [[Hamburg]] yn ogystal. Erbyn heddiw dim ond tuag ugain o bobl sy'n gweithio yn y chwarel.
 
Am ganrifoedd bu'r mynydd yn rhwystr i deithwyr a arswydai rhag croesi'r llethrau syrth creigiog rhwng y ddau bentref. Heddiw mae ffordd yr [[A55]] yn mynd o dano trwy ddau dwnel mawr.