Penmaen-mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Seiriol
Llinell 7:
 
Ar un adeg roedd copa'r Penmaen-mawr yn 1,500 troedfedd uwchben lefel y môr ond mae wedi cael ei dorri i lawr cryn dipyn gan waith chwarel dros y blynyddoedd. Coronid y gopa gan [[Braich-y-Dinas]], a oedd un o'r [[bryngaer]]au fwyaf o gyfnod [[Oes yr Haearn]] yng Nghymru ac Ewrop, cyffelyb i [[Tre'r Ceiri|Dre'r Ceiri]] yn ardal [[Trefor]] yn [[Llŷn]]; gwaetha'r modd dinistriwyd yr olion olaf yn y 1920au ac nid oes dim yn aros ohoni heddiw.
 
Cysylltir [[Sant]] [[Seiriol]] â'r mynydd. Yn ôl traddodiad bu ganddo gapel yng Nghwm Graiglwyd. Dywedir yn ogystal fod ganddo gell meudwy mewn llecyn a elwir yn 'Clipyn Seiriol', ar lethrau gogleddol y Penmaen-mawr uwch tonnau'r môr. Arferai ymneilltuo yno o'i fynachlog ar [[Ynys Seiriol]], dros y bae.
 
Datblygwyd gwaith chwarel ar y mynydd yn y 19eg ganrif. Daeth Cwmni Gwenithfaen Cymreig Penmaenmawr (''Penmaenmawr Welsh Granite Co.'') yn un o'r rhai mwyaf o'i fath yn y byd. Ar un adeg bu dros fil o ddynion yn gweithio yno a datblygodd pentrefi chwarel Penmaenmawr a Llanfairfechan yn gyflym wrth i weithwyr o sawl rhan o ogledd-orllewin Cymru, ond yn enwedig o [[Arfon]] a [[Môn]], heidio yno i gael gwaith. Bu gan y chwarel berthynas glos â [[Chwarel Trefor]], hithau'n chwarel gwenithfaen. Allforid cerrig ithfaen i borthfeydd fel [[Lerpwl]] a dinasoedd Lloegr gan y rheilffordd a hefyd ar y môr o ddau jeti'r chwarel i Lerpwl eto ac i nifer o borthfeydd ar y cyfandir fel [[Hamburg]] yn ogystal. Erbyn heddiw dim ond tuag ugain o bobl sy'n gweithio yn y chwarel.