William Thomas Edwards (Gwilym Deudraeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Cyfeiriadau: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
ehangu |
||
Llinell 2:
Bardd Cymraeg oedd '''William Thomas Edwards''' ([[21 Tachwedd]] [[1863]] – [[20 Mawrth]] [[1940]]), neu '''Gwilym Deudraeth''', a gofir yn bennaf fel [[englyn]]wr bachog a ffraeth.
==
Ganed y bardd yn 'Hen Walia', yn nhref [[Caernarfon]] yn 1863 yn un o 11 o blant, ac fe'i magwyd ym mhentref [[Penrhyndeudraeth]], [[Meirionnydd]], [[Gwynedd]]. Cymerodd ei [[enw barddol]] o'r fro honno.
Treuliodd ei flynyddoedd gweithio cynnar ymmro Penrhyndeudraeth, gan weithio fel chwarelwr yn [[Chwarel yr Oakeley]], [[Blaenau Ffestiniog]] ac wedyn fel gorsaf-feistr gorsaf y Dduallt ar [[Rheilffordd Ffestiniog|Reilffordd Ffestiniog]], lle cafodd fyw yn 'Dduallt House'. Mae nifer o'i englynion yn coffáu ei gyfnod ar y rheilffordd, ac yn tystio i ddiflastod gweithio yn ngorsaf unig y Dduallt (neu 'Rhosllyn', fel y'i gelwid ganddo). Pan adawodd unigeddau Rhosllyn a'i reilffordd sgwennodd yr englyn hwn:
:Ciciwch fi i werthu cocos - neu hyrddiwch
:::Fi i Iwerddon i aros,
::'Waeth ple, i rhywle, i Rhos!
::''Put me in'' Ynys Patmos!
Mae'r englyn ysgafn hwn yn dangos ffraethineb ei gymeriad a'i ddefnydd o iaith y cyfnod, yn hytrach na ieithwedd crefyddol a nodweddai'r cyfnod.
Priododd Harriet, o [[Llanferes|Lanferes]], a symudodd y ddau i [[Lerpwl]] lle treuliodd weddill ei oes yn goryfed, yn aelod amlwg a thlawd o'r gymdeithas Gymraeg oedd yno.
Bu farw yn 1940. Ysgrifennodd ei nai, Trefor, gofiant iddo, ''Bardd yr Awen Barod''; roedd Trefor yn Brifathro mewn ysgol breifat yn Llundain.<ref> Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''.</ref>
==Llyfryddiaeth==
|