Fforest Clud: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

cadwyn o fynyddoedd ym Mhowys
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: {{mynydd | enw =Rhos Fawr | mynyddoedd =Fforest Faesyfed | darlun =Great Rhos.jpg | maint_darlun =300px | caption =Llethrau uchaf ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 16:45, 21 Tachwedd 2007


Cramen garreg o ucheldir yn nwyrain canolbarth Cymru yw Fforest Faesyfed (Saesneg: Radnor Forest). Fe'i enwir ar ôl Maesyfed, un o hen ardaloedd Powys. Gelwir yr ucheldir yn 'fforest' am ei fod yn tir agored a osodwyd o'r neilltu ar gyfer hela gan arglwyddi lleol yn yr Oesoedd Canol.

Rhos Fawr
Fforest Faesyfed
Llethrau uchaf Rhos Fawr
Llun Llethrau uchaf Rhos Fawr
Uchder 660m / 2,165 troedfedd
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Cymru

Pwyntiau uchaf Fforest Faesyfed yw'r Rhos Fawr, llwyfandir eang o laswellt a grug sy'n cyrraedd uchder o 660 m, a llwyfandir cyffelyb i'r dwyrain, Black Mixen, ar y ffin â Lloegr. Ceir mast darlledu ar ben y copa olaf.

Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn y Fforest ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefnllys, Llanfihangel Rhydeithon, Llanfihangel Nantmelan a Llanfihangel Cascob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys[1].

Cyfeiriadau

  1. [http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm "St Michael and the Dragon of Radnor Forest" ar wefan yr Eglwys yng Nghymru (Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu).