Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Fforest Clud"

Ychwanegwyd 156 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(Tudalen newydd: {{mynydd | enw =Rhos Fawr | mynyddoedd =Fforest Faesyfed | darlun =Great Rhos.jpg | maint_darlun =300px | caption =Llethrau uchaf ...)
 
B
}}
 
Cramen garreg o ucheldir yn nwyrain [[canolbarth Cymru]] yw '''Fforest Faesyfed''' ([[Saesneg]]: ''Radnor Forest''). Fe'i enwir ar ôl [[Maesyfed]], un o hen ardaloedd [[Powys]]. Gelwir yr ucheldir yn 'fforest' am ei fod yn tir agored a osodwyd o'r neilltu ar gyfer [[hela]] gan arglwyddi lleol yn yr [[Oesoedd Canol]]. Roedd yn ffurfio calon yr ardal ddaearyddol ganoloesol a adwaenid fel [[Rhwng Gwy a Hafren]].
 
Pwyntiau uchaf Fforest Faesyfed yw'r '''Rhos Fawr''', [[llwyfandir]] eang o laswellt a [[grug]] sy'n cyrraedd uchder o 660 m, a llwyfandir cyffelyb i'r dwyrain, '''Black Mixen''', bron ar y ffin â [[Swydd Henffordd]] yn [[Lloegr]]. Ceir mast darlledu ar ben y copa olaf.
 
Yn ôl traddodiad [[llên gwerin Cymru|llên gwerin]] lleol, bu [[draig]] yn byw yn y Fforest ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair [[eglwys]] i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi [[Llanfihangel Cefnllys]], [[Llanfihangel Rhydeithon]], [[Llanfihangel Nantmelan]] a [[Llanfihangel Cascob]], i'r [[archangel]] Sant [[Mihangel]], sy'n gorchfygu'r ddraig yn y [[Beibl]]. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys<ref>[http://www.churchinwales.org.uk/swanbrec/churches/trails/dragons.htm "St Michael and the Dragon of Radnor Forest" ar wefan yr [[Eglwys yng Nghymru]] ([[Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu]]).</ref>.
 
[[Category:Mynyddoedd a bryniau Cymru]]
[[Categori:Canolbarth Cymru]]
[[Category:Powys]]
[[Categori:Llên gwerin Cymru]]