Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Fforest Clud"

Ychwanegwyd 145 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
Bryn Glas
B
(Bryn Glas)
 
Cramen garreg o ucheldir yn nwyrain [[canolbarth Cymru]] yw '''Fforest Faesyfed''' ([[Saesneg]]: ''Radnor Forest''). Fe'i enwir ar ôl [[Maesyfed]], un o hen ardaloedd [[Powys]]. Gelwir yr ucheldir yn 'fforest' am ei fod yn tir agored a osodwyd o'r neilltu ar gyfer [[hela]] gan arglwyddi lleol yn yr [[Oesoedd Canol]]. Roedd yn ffurfio calon yr ardal ddaearyddol ganoloesol a adwaenid fel [[Rhwng Gwy a Hafren]].
 
Ar [[22 Mehefin]], [[1402]], cafodd [[Owain Glyndŵr]] fuddoliaeth fawr ar y Saeson ym [[Brwydr Bryn Glas]], ar odre ogleddol Fforest Faesyfed.
 
Pwyntiau uchaf Fforest Faesyfed yw'r '''Rhos Fawr''', [[llwyfandir]] eang o laswellt a [[grug]] sy'n cyrraedd uchder o 660 m, a llwyfandir cyffelyb i'r dwyrain, '''Black Mixen''', bron ar y ffin â [[Swydd Henffordd]] yn [[Lloegr]]. Ceir mast darlledu ar ben y copa olaf.