Elenydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
:''Am y bardd Elerydd, gweler [[William John Gruffydd (Elerydd)]].''
Ardal o fryniau yng
[[Delwedd:Pumlumon Fawr.jpg|250px|bawd|[[Pumlumon|Pumlumon Fawr]], copa uchaf yr Elerydd]]
Ucheldir o rosdiroedd a bryniau yn hytrach na chadwyn o fynyddoedd fel y cyfryw yw'r Elerydd. Mae'n ardal anghysbell sy'n gartref i adar prin fel y [[Barcud Coch]]. Cyfeirir ato weithiau fel "Anialdir Gwyrdd Cymru". Ceir olion sawl gweithfa [[plwm]] yn yr ardal, yn arbennig yng nghyffiniau Pumlumon. Bu'r [[Rhufeiniaid]] yn cloddio am [[aur]] ym mwyngloddiau [[Dolaucothi]], ar odre ddeheuol yr Elerydd.
Ond er bod y bryniau eu hunain yn llwm ac agored, yn y cymoedd sy'n eu brodio ceir nifer o bentrefi bychain a chymunedau clos. Mewn cwm ar odre orllewinol yr Elerydd ceir adfeilion [[Abaty Ystrad Fflur]].
Ganed y bardd [[William John Gruffydd (Elerydd)|W. J. Gruffydd]] ym mhentref [[Ffair-rhos]], Ceredigion, a mabwysiadodd yr [[enw barddol]] 'Elerydd'.
|