Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Nant Ffrancon"

Ychwanegwyd 588 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
ehangu
B
(ehangu)
Dyffryn yn [[Eryri]] yw '''Nant Ffrancon''', sy'n ymestyn tua'r gogledd o [[Llyn Ogwen|Lyn Ogwen]] a [[Cwm Idwal|Chwm Idwal]] hyd at gyffiniau pentref [[Bethesda]]. Credir bod "Ffrancon" yn hen enw ar filwr hur ([[Ffranciaid|Ffranc]]), ond nid yw pawb yn cytuno â'r esboniad.
 
==Daearyddiaeth==
Mae Nant Ffrancon o ddiddordeb [[daeareg|daearegol]] mawr, gan ei bod yn enghraifft glasurol o ddyffryn a grewyd gan rewlif, ac yn dangos siâp "U" nodweddiadol y dyffrynnoedd hynny, gydag ochrau serth a gwaelod gwastad. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn mae llethrau [[Pen yr Ole Wen]] a [[Carnedd Dafydd]] yn y [[Carneddau]], tra ar yr ochr orllewinol mae llethrau rhai o gopaon y [[Glyderau]] megis [[Y Garn (Glyderau)|Y Garn]], Foel Goch a Mynydd Perfedd. Mae llawer o'r meini yn y dyffryn yn dangos tystiolaeth eu bod wedi eu symud gan y rhewlif yn ystod [[Oes yr Iâ]]. Er bod [[Afon Ogwen]] yn llifo ar hyd y dyffryn, nid yr afon a greodd y dyffryn yma.
 
==Ffyrdd==
Mae priffordd yr [[A5]] hefyd yn dilyn y dyffryn gan esgyn i Fwlch Nant Ffrancon ger [[Llyn Ogwen]]. Oddi yno â yn ei blaen i [[Capel Curig|Gapel Curig]]. Ceir ffordd gynharach sy'n dilyn ochr orllewinol y Nant.
Mae priffordd yr [[A5]] hefyd yn dilyn y dyffryn gan esgyn i Fwlch Nant Ffrancon ger [[Llyn Ogwen]]. Oddi yno â yn ei blaen i [[Capel Curig|Gapel Curig]]. Ceir ffordd gynharach sy'n dilyn ochr orllewinol y Nant. Cafodd yr hen ffordd ar hyd llwybr presennol yr A5 ei ail-wneud yn llwyr gan [[Thomas Telford]] rhwng [[1810]] a [[1826]]. Adeiladwyd yr hen lôn gan yr [[Arglwydd Penrhyn]] ar ddiwedd y [[18fed ganrif]], yn bennaf er mwyn dod â llechi i lawr o'r mynydd i [[Porth Penrhyn|Borth Penrhyn]], ger [[Bangor]]. Cyn hynny cafodd yr hen lwybr ei ddisgrifio gan yr hynafiaethydd [[Thomas Pennant]] fel "y llwybr mul gwaethaf yng Nghymru"!<ref>Alun Llywelyn-Williams, ''Crwydro Arfon'' ([[Cyfres Crwydro Cymru]], 1959), t. 115-16.</ref>
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
[[Categori:Dyffrynnoedd Cymru]]