Manon Rhys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B cat |
Deb (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 2:
==Bywgraffiad==
Mynychodd [[Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen]], [[Treorci]], rhwng [[1952]] a [[1959]] cyn symud ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched, [[Y Porth]]. Symudodd y teulu i [[Prestatyn|Brestatyn]] ym [[1961]] a mynychodd [[Ysgol Glan Clwyd]], [[Y Rhyl]], hyd [[1966]], wedi i'w mam, Mair Davies, dderbyn swydd Pennaeth Adran y Gymraeg yn yr un ysgol. Graddiodd yn y [[Cymraeg|Gymraeg]] o [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Brifysgol Cymru, Aberystwyth]] cyn dilyn cwrs ymarfer dysgu ym [[Prifysgol Caerdydd|Mhrifysgol Caerdydd]].
Bu'n athrawes Gymraeg am gyfnod cyn symud i faes ysgrifennu sgriptiau teledu a ffilm, gan weithio ar raglenni megis [[Pobol y Cwm]] a chyfres Y Palmant Aur (a addasodd yn ddiweddarach fel tair nofel). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf ym [[1988]]. Bu'n gydolygydd y cylchgrawn llenyddol ''[[Taliesin (cylchgrawn)|Taliesin]]''. Y mae hi hefyd yn diwtor ysgrifennu creadigol.
|