Gruffydd Robert: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Cywiriadau ieithyddol
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
==Ei fywyd==
Roedd yn hanfod o ogledd Cymru, naill ai o [[Dyffryn Clwyd|Ddyffryn Clwyd]] neu o [[Ynys Môn]]. Cafodd radd M.A. o [[Eglwys Crist, Rhydychen]] ym [[1555]], cyn cymryd swydd fel archddiacon Môn ym [[1558]]. Yn fuan ar ôl ei benodiad, bu farw y Frenhines [[Mair I, obranhines LoegrLloegr]]. Ailgyflwynwyd [[Protestaniaeth]] yng Nghymru a Lloegr gyda [[Deddf Goruchafiaeth]] (1559), ond arhosodd [[Catholigiaeth]] yn gryf yng Nghymru, a Gruffydd ymysg y rhai a arhosai'n ffyddlon i'r hen grefydd.<ref name="ReferenceA">G. J. Williams (gol.) ''Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert''. Rhagymadrodd.</ref>
 
Aeth i'r cyfandir gyda [[Morys Clynnog]], gan dreulio dwy flynedd efallai gydag yntau yn [[Louvain]]. Mae'n bosib iddo deithio yn rhannau eraill o'r cyfandir yr adeg honno, megis [[Ffrainc]] a'r [[Almaen]]. Erbyn mis Ionawr [[1564]] roedd Gruffydd Robert a Morys Clynnog wedi dod yn gaplaniaid yn yr Ysbyty Seisnig yn [[Rhufain]]. Roedd [[Thomas Goldwell]], esgob [[Llanelwy]] wedi cael ei benodi'n warden yno ym [[1561]], ac felly mae'n bosib iddo fod wedi eu gwahodd yno. Erbyn [[1567]], pryd cyhoeddwyd rhan gyntaf ei ramadeg, roedd Gruffydd yn cael ei gyflogi gan Cardinal [[Carlo Borromeo]], Archesgob Milan. Cyfeirir at Gruffydd fel ''doctor'' gan [[Anthony Munday]] a [[Morris Kyffin]]. Gallasai ef fod wedi derbyn doethuriaeth yn [[Louvain]] neu gan Borromeo ym Milan. Roedd yn gyffeswr i Borromeo ac yn ganon duwinyddol yn Eglwys Gadeiriol Milan. Yn ystod pla [[1567]] gweithiodd ef fel cynorthwy-ydd yn mynd allan i ddosbarthu elusennau gyda Borromeo. Arhosodd yn Milan am bron ugain mlynedd yng ngwasaneth Borromeo. Ym [[1582]], gofynnodd Gruffydd am gael ymddiswyddo fel canon duwinyddol ond am gael swydd arall, mae'n debyg, am nad oedd ei Eidaleg yn ddigon rhugl i bregethu ynddi. Doedd dim canoniaeth arall yn wag, felly cafodd bensiwn ym [[1594]]. Ar ôl marwolaeth Borromeo ym mis Tachwedd [[1584]], cafodd fwy o hamdden i weithio ar ei ramadeg.<ref name="ReferenceA"/>
Llinell 27:
{{DEFAULTSORT:Robert, Gruffydd}}
[[Categori:Gruffydd Robert| ]]
[[Categori:Pobl o Ddyffryn Clwyd]]
[[Categori:Genedigaethau'r 16eg ganrif]]
[[Categori:Gramadegwyr Cymraeg]]