Harold Lowe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B clean up
Nev1 (sgwrs | cyfraniadau)
fmt
Llinell 15:
Roedd y Comander '''Harold Godfrey Lowe''' RD RNR ([[21 Tachwedd]], [[1882]] - [[12 Mai]], [[1944]]) yn Bumed Swyddog ar fwrdd yr [[RMS Titanic]] ar adeg ei suddo ym 1912.<ref>[http://www.famouswelsh.com/adventurers/1889-harold-lowe Famous Welsh Harold Lowe: Titanic hero from Eglwys Rhos, Caernarfonshire, North Wales] adalwyd 23 Mai, 2016</ref>
 
==Blynyddoedd cynnar==
Ganwyd Harold Lowe yn [[Eglwys Rhos]], ger [[Conwy]] ym 1882 y pedwerydd o wyth o blant a anwyd i George a Harriet Lowe. Bwriad y tad oedd i Harold cael ei brentisio i ddyn busnes llwyddiannus yn [[Lerpwl]] ond roedd Harold yn benderfynol o fynd i'r môr. Yn 14, rhedodd i ffwrdd o'i gartref yn [[Abermaw|y Bermo]] lle'r oedd wedi mynychu'r ysgol a ymunodd â'r Llynges Fasnachol, yn gwasanaethu ar hyd Arfordir Gorllewin Affrica. Dechreuodd Lowe fel bachgen ar fwrdd sgwneri arfordirol Cymru wrth weithio i ennill ei ardystiadau. Ym 1906, llwyddodd yn yr ardystiadau i ddyfod yn ail fêt. Ym 1908, fe enillodd dystysgrif mêt cyntaf.<ref>[http://www.titanic-titanic.com/harold_lowe.shtml Fifth Officer Harold Geoffrey Lowe] adalwyd 23 Mai 2016</ref>
 
Wedi ennill tystysgrif Meistr ymunodd Lowe a chwmni White Star ym 1911. Gwasanaethodd fel trydydd swyddog ar longau'r ''Belgic'' a'r ''Tropic'' cyn cael ei drosglwyddo i'r Titanic fel y pumed swyddog ym 1912. Er gwaethaf ei flynyddoedd niferus ar y môr, mordaith y Titanic oedd y tro cyntaf iddo wneud taith trawsatlantig.
 
==Ar lestr y Titanic==
 
[[Delwedd:RMS Titanic 4.jpg|bawd|RMS Titanic]]
 
===Rhagbaratoi===
Fel swyddogion iau eraill y llong, adroddodd Lowe i swyddfeydd White Star, [[Lerpwl]], am naw o gloch y bore ar 26 Mawrth 1912, cyn teithio i [[Belfast]] y diwrnod canlynol er mwyn dod yn rhan o staff y Titanic. Ar y diwrnod hwylio (10 Ebrill), bu Lowe yn cynorthwyo (ymhlith pethau eraill) i ostwng dau o'r badau achub er mwyn bodloni'r Bwrdd Masnach fod y Titanic yn bodloni'r rheoliadau diogelwch.<ref>[http://www.titanicinquiry.org/USInq2/AmInq05Lowe02.php United States Senate Inquiry Day 5 Testimony of Harold G. Lowe, cont (2)]</ref>.
 
===Y suddo===
[[Delwedd:Titanic Eisberg.jpg|bawd|Y mynydd rhew â suddodd y Titanic]]
Ar 14 Ebrill 1912, noson y suddo, cafodd Lowe ei rhyddhau am 8.00 pm gan y Chweched Swyddog Moody ac yn cysgu pan darodd y llong [[Mynydd rhew|mynydd iâ]] am 11.40 o'r gloch. Parhaodd i gysgu drwy'r gwrthdrawiad gan ddeffro tua hanner awr ar ôl y digwyddiad.<ref>[http://www.titanicinquiry.org/USInq2/AmInq05Lowe03.php United States Senate Inquiry Day 5 Testimony of Harold G. Lowe, cont (3)]</ref>.
Llinell 33:
Wedi deffro a chael ei hysbysu o'r sefyllfa gwisgodd gafaelodd yn ei ddryll ac aeth ati yn syth i weithio. Ei dasg gyntaf oedd llenwi a gollwng bad achub rhif 5 i'r môr, wedi gwneud hynny aeth ef a'r swyddog Moody i lenwi badau rhif 12 i 16 ar ochr port y llong. Gan nad oedd Swyddog gyda'r grŵp hwn o fadau awgrymodd Moody mae da o beth byddai i Lowe mynd ar un o'r badau er mwyn derbyn cyfrifoldeb dros eu diogelwch ar y môr. Erbyn i fad rhif 14 cael ei lansio roedd y sefyllfa ar ddec y prif lestr yn troi'n banig wrth i'r rhan fwyaf o'r teithwyr sylwi bod y llong ar fin darnio, a bu'n rhaid i Lowe tanio tair ergyd o'i gŵn<ref>[http://www.encyclopedia-titanica.org/holds-back-men-at-pistol-point.html HOLDS BACK MEN AT PISTOL POINT Worcester Evening Gazette] ref: #2878, adalwyd 26th Mai 2016</ref> i'w rhwystro rhag gorlwytho'r bad a lladd ei holl deithwyr.<ref>Eaton, John P.; Haas, Charles A. (1987). Titanic'': Destination Disaster: The Legends and the Reality''. Wellingborough, UK: Patrick Stephens. [[International Standard Book Number|ISBN]] [[Arbennig:BookSources/978-0-85059-868-1|978-0-85059-868-1]].</ref>
 
=== Achub bywydau ===
[[Delwedd:Titanic-lifeboat.gif|bawd|Un o fadau achub y Titanic]]Ar ôl cyrraedd y dŵr, gorchmynnodd Lowe i'w bad achub i gael ei rwyfo tua 150 llath (140m) i ffwrdd o'r Titanic. Pan suddodd y llong tua 2:20, dechreuodd Lowe i gasglu nifer o gychod achub yng nghyd. Roedd yn dymuno dychwelyd i godi goroeswyr ond roedd ofnau o gael eu llethu gan ormodedd o bobl. Fe ail ddosbarthodd y goroeswyr yn y grŵp o fadau achub yr oedd wedi casglu ynghyd er mwyn sicrhau bod o leiaf un o'r badau yn wag i chwilio am oroeswyr ychwanegol i'w hachub o ddŵr y môr, ei fad ef oedd un o ddau yn unig a fentrodd i ail chwilio am oroeswyr, a'r unig un i godi'r hwyliau oedd ar bob bad achub er mwyn cyflymu'r gwaith o gyrraedd at bobl oedd ar fin trengi.
 
Cafodd Lowe a'i grŵp o fadau achub eu codi'r bore wedyn gan y [[RMS Carpathia]].
 
===Yr ymchwiliadau===
Glaniodd goroeswyr y Titanic ar Bier 54 yn [[Dinas Efrog Newydd|Efrog Newydd]] ar 18 Ebrill. Galwyd Lowe yn fuan i dystio yn yr ymchwiliad yn America i mewn i'r suddo. Byrddiodd ar yr Adriatic ar 2 Mai i ddychwelyd i wledydd Prydain, a chafodd ei alw i roi tystiolaeth i'r ymchwiliad Prydeinig. Bu cwyno bod tystiolaeth Lowe i'r ymchwiliad Americanaidd yn wamal a sarhaus er enghraifft pan ofynnwyd iddo ; ''O ba beth y gwnaed mynydd rhew'' ei ateb oedd ''rhew am wn i Syr'' cafodd ei feirniadu hefyd am fod yn hiliol a bu'n rhaid iddo ymddiheuro ddwywaith am ddefnyddio'r term ''[[Yr Eidal|Eidalwr]]'' fel mwys am lwfrgi.
 
Yn 2012 gwnaed traws ysgrifau o'r holl dystiolaeth a roddwyd gerbron ymchwiliad y [[Senedd yr Unol Daleithiau|Senedd]] yn yr UDA ac ymchwiliad Comisiynydd Llongddrylliadau Prydain a'u gosod ar y we. Mae tystiolaeth Lowe yn dechrau ar [http://www.titanicinquiry.org/USInq/AmInq05Lowe01.php y pumed diwrnod o'r ymchwiliad Americanaidd] ac ar [http://www.titanicinquiry.org/BOTInq/BOTInq13Lowe01.php ddiwrnod 13 o'r ymchwiliad yn Llundain].<ref>[http://www.titanicinquiry.org/ Titanic Enquiry Project] adalwyd 26 Mai 2016</ref>
 
==Bywyd wedi'r Titanic==
Wedi iddo ddychwelyd i'r Bermo mynychodd 1,300 o bobl dderbyniad dinesig a gynhaliwyd i'w anrhydeddu yn y ''Pavilion Picture House'' (safle clwb nos y ''Sandancer'' bellach). Cyflwynwyd oriawr aur iddo yn dwyn arysgrif ''Cyflwynwyd i Harold Godfrey Lowe, 5ed swyddog R.M.S. Titanic gan ei ffrindiau yn Abermaw ac mewn mannau eraill i gydnabod a gwerthfawrogi ei wasanaeth dewr ar ddarnio'r Titanic 15 Ebrill 1912.''
 
Ym mis Medi 1913, priododd ag Ellen Marion Whitehouse, a bu iddynt ddau o blant, Florence Josephine a Harold William. Gwasanaethodd yn y ''Royal Naval Reserve'' yn ystod y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] gan wasanaethu yn Vladivostok ar adeg [[Chwyldro Rwsia|Chwyldro a Rhyfel Cartref Rwsia]]; cafodd ei ddyrchafu i reng Is-gapten, RNR. Ar ôl y rhyfel dychwelodd i wasanaethu gyda llongau rhyngwladol y llynges fasnachol a chwmni White Star, gan ymddeol ym 1931 a symyd i [[Deganwy|Ddeganwy]] gyda'i deulu. Yn ystod yr [[Ail Ryfel Byd]] bu'n gwasanaethu fel Warden Cyrchoedd Awyr hyd i'w iechyd dorri gan ei orfodi i ddefnyddio cadair olwyn.
 
==Marwolaeth==
[[Delwedd:Barmouth plaque to Harold Lowe (Titanic).JPG|bawd|Cofeb Lowe yn y Bermo]]
Bu farw Harold Lowe o bwysedd gwaed uchel ar 12 Mai 1944 yn 61 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Llandrillo-yn-rhos<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/baecolwyn/pages/lluniau_rhos.shtml?16 BBC Lleol Lluniau Llandrillo-yn-Rhos] adalwyd 26 Mai 2016</ref>.
Llinell 54:
Gosodwyd plac o lechen er cof am Lowe ar furiau Tŷ'r Harbwrfeistr yn y Bermo yn 2012 gydag ysgrif yn dweud ''Er cof am arwr lleol y 5ed swyddog Harold Godfrey Lowe. Adawodd Abermaw yn 14 oed i fynd i'r môr. Bu ganddo ran arwrol yn achub rhai a oroesodd wedi suddo'r RMS Titanic ar 15 Ebrill 1912''<ref>[http://www.itv.com/news/wales/2012-04-15/welsh-hero-of-titanic-remembered-100-years-to-the-day/ Darllediad ITV Welsh hero of Titanic remembered 100 years on] adalwyd 26 Mai 2016</ref>. Ceir plac glas er cof amdano ar furiau ei gartref olaf yn Neganwy hefyd<ref>[http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-north-west-wales-17658158 BBC Titanic hero Harold Lowe: Blue plaque unveiled at Deganwy home] adalwyd 26 Mai 2016</ref>.
 
==Portreadau==
Mae Lowe yn cael ei bortreadu gan yr actorion
* [[Ioan Gruffudd]] yn ffilm 1997 [[Titanic (ffilm 1997)|Titanic]]
Llinell 62:
Ysgrifenwyd cofiant i Lowe ''Titanic Valour: The Life of Fith Officer Harold Lowe'' gan Inger Shell yn 2011 <ref>[https://www.amazon.co.uk/Titanic-Valour-Fifth-Officer-Harold/dp/0752469967 Hysbyseb ar Amazon]</ref>
 
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau|2}}
{{Rheoli awdurdod}}.