Geraint Jarman: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 39:
Amhosibl fyddai anwybyddu cyfraniad [[Tich Gwilym]], prif gitarydd y Cynganeddwyr, i'r llwyddiant a'r llewyrch, a byddai crescendo'r noson yn dueddol o orffen gyda'i fersiwn unigol o [[Hen Wlad fy Nhadau|Hen Wlad Fy Nhadau]].
 
Yn 1978 gwelwyd dyfodiad yr albwm ''Hen Wlad Fy Nhadau'', oedd os rywbeth yn curo ei ymgeision blaenorol gwych - cewri o ganeuon megis "Ethiopia Newydd", "Instant Pundits", "Sgip ar Dân", "Merch Tŷ Cyngor" a "Methu Dal y Pwysa" yn cyfrannu at un o albwms y ganrif heb os.
 
Mewn llai na blwyddyn roedd albwm arall allan, ''Gwesty Cymru'', a roedd y safon yr un mor eithriadol, gyda chaneuon aruthrol megis "SOS yn Galw Gari Tryfan", "Neb yn Deilwng", "Byth yn Mynd i Redeg Bant" a "Gwesty Cymru" yn mynnu'r glust.
 
Yn parhau â'r raddfa ffrwythlon daeth ''Fflamau'r Ddraig'' allan yn '80, uchafbwyntiau yn cynnwys yr enwog "Rhywbeth Bach", y "Cŵn Hela" iasol a'r dwys bendigedig "Cae'r Saeson", a ni fedrir crybwyll hwnnw heb sôn am y gig Twrw Tanllyd cyntaf a gynhaliwyd yng "Nghae'r Saeson" yn '79 gyda Jarman yn codi'r to.
 
Yn selio ei statws fel prif artist Cymru gwelwyd traciau arbennig megis y gorffwyll "Crogi Llygoden", yr anthem hapus "Diwrnod i'r Brenin" a'r "Patagonia" epigol oddi ar ''Diwrnod i'r Brenin" yn 81.
 
Yn 1983 rhyddhaodd ''Macsen'' oedd yn drac sain i ffilm [[Gareth Wynn Jones]] o'r un enw, oedd yn cynnwys Siglo ar y Siglen a Cwd, a daeth ''Enka'' yn '84, oedd yn brosiect ffilm arall ac yn ddechrau ar ddiddordeb Geraint yn y maes fideo, gyda thraciau gwych megis "Nos Da Saunders" a "Cenhadon Casineb".
 
O hynny aeth ymlaen i weithio ar y gyfres arloesol a hanfodol [[Fideo 9]] i Criw Byw am bum mlynedd, gan roi stop ar ei gatalog tan 1992 pan recordiwyd ''Rhiniog'' ar label [[Ankst]]. Gyda sŵn gwahanol a hynod gyfeillgar roedd yn arallgyfeiriad sylweddol a welodd ganlyniadau ffantastig megis Kenny Dalglish, Hei Mr DJ, Llwyth Dyn Diog a mwy. Amhosib fyddai pasio heb roi sylw arbennig i'r emosiynol Strydoedd Cul Pontcanna a'r gwefreiddiol Tracsuit Gwyrdd oedd yn cyfrannu at albwm godidog.
 
Roedd y safon yr un mor lewyrchus yn ''Y Ceubal Y Crossbar a'r Quango'', oedd yn taro tant gyda thraciau gwych megis "Rhedeg Lawr y Tynal Tywyll", "Animeiddio Goleudy Mewn Rhyfel", "Anifail Brigitte Bardot", gyda [[Cerys Matthews|Cerys Mathews]] yn cyfrannu llais cefndir, a'r melys "Enillais Hen Gariad".
 
Gyda dau albwm mor drawiadol ganddo ar ei newydd wedd doedd ganddo ddim mwy i'w brofi, ond gwelwyd yr albwm annisgwyl ''Eilydd Na Ddefnyddiwyd'' yn 1998, oedd yn hannu mwy at reggae tywyll, a mewn gwirionedd nid oedd cweit yn cyrraedd uchelfannau ''Rhiniog'' a ''Ceubal'', er fod rhaid nodi ''Asyn Eira'' ac yn enwedig ''Ti'n Gwybod Be Ddudodd Marley'' fel traciau penigamp.
 
Yn 2002 rhyddhodd EP ''Môrladron'', CD 5 trac, hawdd i wrando arni, oedd yn cynnwys y gân "Môrladron" - prosiect ar y cyd gyda meistri'r ail-gymysgu [[Llwybr Llaethog (band)|Llwybr Llaethog]]. Yn yr flwyddyn, fe recordiodd Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr sesiwn arbennig i raglen C2 Radio Cymru welodd Jarman yn arbrofi gyda synnau latino [[De America]] ac yn mynd nôl i'w wreiddiau [[reggae]].
 
Dros y blynyddoedd diweddar, rhyddhawyd casgliad o ganeuon byw Jarman, ''Yn Fyw-1977-1981 1977–1981'' - Jarman ar ei orau - a'r set gynhwysfawr ''Atgof Fel Angor'', sy'n cynnwys 15 CD! Mae hefyd wedi troi ei law at gyflwyno ei rhaglenni ei hun ar [[C2]] [[BBC Radio Cymru|Radio Cymru]].
 
Bu 2011 yn flwyddyn brysur i Geraint Jarman. Rhyddhaodd albwm newydd, ''Brecwast Astronot'' ar label [[Ankstmusik]], dychwelodd i Radio Cymru gyda'i gyfres gerddoriaeth, 'Jarman' a chyhoeddodd ei gyfrol hunangofiannol, Y Twrw Jarman ([[Gwasg Gomer|Gomer]]).
 
Derbyniodd Geraint Jarman wobr Cyfraniad Oes yng ngwobrau'r [[Y Selar|Selar]] 2017 yn Aberystwyth, a chwarae gig acwstig yn Neuadd Pantycelyn ar y noson cynt ar Chwefror 17. Mewn cyfweliad â Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru dywedodd ei fod yn gweithio ar albym reggae.
Llinell 85:
*''[[Eilydd na Ddefnyddiwyd / Sub Not Used]]'' (1998) [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]]
*''[[Môrladron]]'' (2002) [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]]
*''[[Yn Fyw 1977 - 19811977–1981 Live]]'' (2002) [[Ankstmusik]]
*''[[Sgaffaldiau Bambŵ]]'' (2006)
*''[[Brecwast Astronot (albwm)|Brecwast Astronot]]'' (2011) [[Ankstmusik]]