Moeseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B dileu dol ddwbl
B Canrifoedd a manion using AWB
Llinell 1:
Astudiaeth athronyddol maes [[moesoldeb]], sef y cwestiwn mawr o "sut y dylem fyw", yw '''moeseg''', a elwir weithiau yn '''athroniaeth moes'''.
 
Gellir rhannu hanes moeseg yn y Gorllewin yn sawl rhan, gan gychwyn gyda [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid yr Henfyd]] a gwaith y [[Soffydd]]ion fel [[Protagoras]] ac wedyn athronwyr mawr fel [[Socrates]], [[Platon]] ac [[Aristotlys]]. Ar seiliau gwaith y Groegiaid ond dan ddylanwad ac ysbrydoliaeth amlwg y [[Testament Newydd]], datblygodd moeseg [[Cristnogaeth|Gristnogol]]. Un o foesegwyr mawr yr [[Oesoedd Canol]] oedd [[Thomas Aquinas]] a ddilynodd Aristotlys mewn sawl maes ond a roddodd y pwyslais ar y [[dyletswydd]] i ufuddhau i ddeddfau [[Duw]]. Yn y Cyfnod Modern newidiodd cyfeiriad moeseg a datblygodd [[Naturiolaeth Foesegol]], a welir yng ngwaith [[Thomas Hobbes]], er enghraifft. Ond daeth syniadau eraill i'r amlwg, rhai ohonynt yn wrthwynebus i syniadaeth Hobbes, a chafwyd sawl athroniaeth moes yn cynnwys [[Iwtilitariaeth]], athroniaeth [[Immanuel Kant]] a moeseg ôl-Kantaidd, sy'n ymrannu'n sawl ffrwd.
Llinell 33:
 
== Metafoeseg a moeseg ddadansoddol ==
Maes uwchathronyddol a changen o athroniaeth ddadansoddol yw metafoeseg sy'n astudio natur damcaniaethau moesegol a cheisio diffinio moesoldeb. Tynna ar fetaffiseg, [[epistemoleg]] ac [[athroniaeth meddwl]]. Gofynna cwestiynau parthed ystyron y geiriau "da" ac "iawn", diffiniadau hanfodion moeseg megis gwerthoedd, gwrthrychau a phriodweddau, ffynonellau a seiliau gwerthoedd moesol, ac amodau a pherthnasedd egwyddorion moesol. Ymdrecha safbwyntiau metafoesegol i ddatrys y pynciau hyn drwy archwilio [[semanteg]] y disgwrs, ontoleg priodweddau moesol, arwyddocâd y ddadl anthropolegol, ystyriaethau [[Seicoleg|seicolegolseicoleg]]ol, a sut yr ydym yn caffael [[Gwybodaeth (epistemoleg)|gwybodaeth]] am werthoedd moesol.<ref>{{Eicon en}} Kevin M. DeLapp. "[http://www.iep.utm.edu/metaethi/ Metaethics]" yn yr ''Internet Encyclopedia of Philosophy''. Adalwyd ar 13 Rhagfyr 2016.</ref>
 
Honna'r [[Naturiolaeth|naturiolwyr]] a'r [[Annaturiolaeth|annaturiolwyr]] fel ei gilydd taw natur [[Gwybyddiaeth|wybyddol]] sydd i iaith foesol, ond maent yn anghytuno ar sut y gallem caffael y wybodaeth hon. Gwada'r [[Emosiynaeth|emosiynwyr]] bod mynegiadau moesol yn wybyddol, tra bo'r [[Argymhelliaeth|argymhellwyr]] yn dadlau taw cyfarwyddiadau neu waharddiadau yw barnau moesol, yn hytrach na datganiadau ffeithiol.<ref>{{Dyf Britannica|url=http://www.britannica.com/topic/metaethics|teitl=metaethics|dyddiadcyrchiad=13 Rhagfyr 2016}}</ref>