Yr ocwlt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Crefydd a'r ocwlt: canrifoedd a Delweddau, replaced: 17eg ganrif17g using AWB
B Canrifoedd a manion using AWB
Llinell 3:
==Ocwltiaeth==
Ocwltiaeth yw'r astudiaeth o ddoethineb ocwlt neu guddiedig. I'r ocwltydd yr astudiaeth am y "Gwir" yw ystyr yr enw, "gwir" dyfnach sy'n bodoli islaw'r arwyneb. Gellir cynnwys pynciau fel [[Dewiniaeth (ocwlt)|dewiniaeth]], [[Canfyddiad Synhwyrol Ychwanegol|canfyddiad synhwyrol ychwanegol]] (galluoedd seicig), [[Astroleg|astroleg]], [[Ysbrydegaeth|ysbrydegaeth]], [[Rhifoleg|rhifoleg]], a [[Breuddwydio eglur| breuddwydio eglur]]. Yn aml mae yna elfennau crefyddol i'r astudiaethau a chredau hyn, ac mae llawer o ocwltwyr yn proffesu dilyn [[Crefydd|crefyddaucrefydd]]au fel [[Cristnogaeth]], [[Iddewiaeth]], [[Paganiaeth]], [[Hindŵaeth]], [[Bwdhaeth]] neu [[Islam]].
 
Mae'r gair "ocwlt" yn derm rhywogaethol, am ei fod yn cynnwys bron bopeth sydd ddim yn cael ei hawlio gan y crefyddau mawr a hefyd llawer o bethau sydd yn perthyn iddynt. Mae hyd yn oed y [[Cabbala]] yn cael ei ystyried yn astudiaeth ocwlt, efallai am ei boblogrwydd ymhlith dewiniaid [[Ewrop]].
 
Mewn termau eang, nid yw mewnwelediad uniongyrchol na chanfyddiad o'r ocwlt yn cynnwys mynediad i ffeithiau mesuradwy, eithr fe'i cyrhaeddir trwy'r meddwl neu'r ysbryd. Gallai'r term cyfeirio at hyfforddiant meddyliol, seicolegol neu ysbrydol. Serch hynny mae llawer o ocwltwyr hefyd yn astudio [[Gwyddoniaeth|gwyddoniaeth]], rhai am eu bod yn gweld gwyddoniaeth fel cangen o [[Alcemeg]] a rhai yn defnyddio [[Ffiseg Cwantwm|ffiseg cwantwm]] fel esboniad gwyddonol ar gyfer hud.
 
==Gwyddoniaeth a'r ocwlt==
Ystyrier ocwltiaeth yn astudiaeth o anian fewnol pethau, tra bo gwyddoniaeth yn astudiaeth o nodweddion allanol. Galwodd yr athronydd Almaeneg [[Alfred Schopenhauer]] yr 'anian fewnol' hwnnw'n 'Ewyllys", gan awgrymu bod gwyddoniaeth a [[Mathemateg|mathemateg]] heb y gallu i dreiddio tu hwnt i'r berthynas rhwng un peth a pheth arall er mwyn esbonio 'anian fewnol' y peth ei hun, yn annibynnol o unrhyw berthnasau achosol allanol gyda 'phethau' eraill.
 
Pwyntiodd Schopenhauer hefyd i anian berthynolaidd gynhenid mathemateg a gwyddoniaeth gonfensiynol yn ei ddatganiad o'r ''Byd fel Ewyllys a Syniad'' (''Die Welt als Wille und Vorstellung'' [[1819]]). O ddiffinio rhywbeth mewn termau a wnelo â'i berthnasau allanol a'u heffeithiau allanol yn unig gawsom o hyd i ddim byd ond anian sydd yn allanol neu'n echblyg. Mae ocwltiaeth, ar y llaw arall, yn canolbwyntio ar anian 'y peth ynddo ei hun'. Gwneir hyn yn amlaf trwy ymwybyddiaeth ganfyddiadol uniongyrchol, a elwir [[Cyfriniaeth|cyfriniaeth]].
 
Ystyrier [[Alcemeg]], sydd yn rhagflaenydd i wyddoniaeth fodern, yn ymarfer ocwlt. Er bod y rhan fwyaf o wyddonwyr yn [[Anffyddiaeth|anffyddwyr]], roedd alcemeg yn ymarfer cyffredin ymhlith gwyddonwyr, fel [[Isaac Newton]].
Llinell 19:
Mae rhai enwadau crefyddol yn gweld yr ocwlt i fod un rhywbeth goruwchnaturiol sydd ddim yn cael ei gyflawni gan neu drwy [[Duw|Dduw]], ac felly rhywbeth sy'n hanu o endid maleisus a gwrthwynebol. Mae gan y gair arwyddocâd negyddol i lawer o bobl, ac er bod llawer o ymarferion a ystyrier gan rai i fod yn "ocwlt" i'w darganfod o fewn y crefyddau mawr, yn y cyd-destun hwn ni ddefnyddier y term "ocwlt" yn aml.
 
Yn [[Iddewiaeth]], caniateir astudiaethau ysbrydol arbennig fel y [[Cabbala]] i rai unigolion (fel [[Rabi|rabiniaidrabi]]niaid a'u myfyrwyr dethol). Nid yw'r astudiaethau hyn yn cydffurfio â defodau cyffredin Iddewiaeth. Hefyd mae rhai ffurfiau o [[Islam]] yn caniatáu i [[Ysbryd|ysbrydionysbryd]]ion gael eu gorchymyn yn enw Duw i wneud gweithredoedd cyfiawn a chynorthwyo Mwslemiaid da. Ceir hefyd canghennau cyfriniol o [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] sy'n ymarfer [[Darogan|darogan]], [[Bendith|bendithiobendith]]io, neu apelio i [[Angel|engyl]] am ymyriadau. Mae [[Rhosgroesiaeth]], un o ganghennau cyfriniol enwocaf Cristnogaeth, wedi dylanwadu ar y rhan fwyaf o ocwltiaeth Gristnogol ers y [[17g]].
 
Mae [[Tantra]], sy'n hanu o [[India]], yn cynnwys ymhlith ei ganghennau amrywiol amrywiaeth o ymarferion defodol fel ymarferion dychmygu a chanu [[Mantra|mantra]] i ddefodau cymhleth sy'n cynnwys [[Cyfathrach rywiol|cyfathrach rywiol]] ac [[Aberth|aberth]] anifeiliaid, weithiau i'w perfformio mewn lleoedd gwaharddedig fel tiroedd [[Amlosgiad|amlosgiad]].
 
{{DEFAULTSORT:Ocwlt, Yr}}