Hawliau dynol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Lotje (sgwrs | cyfraniadau) {{commons|category:Human rights|Hawliau dynol}} |
|||
Llinell 1:
[[Delwedd:Declaration of Human Rights.jpg|de|
'''Hawliau dynol''' yw'r hawliau sylfaenol y credir eu bod yn eiddo i bob bod dynol. Gallant gynnwys pethau fel yr hawl i fywyd a [[rhyddid]], rhyddid i fynegi barn, cydraddoldeb yn wyneb y gyfraith, hawliau cymdeithasol a diwylliannol, yr hawl i [[Bwyd|fwyd]] a'r hawl i waith ac addysg.
Ceir datganiadau ynghylch haliau dynol o gyfnod cynnar iawn, gan frenhinoedd ac ymerodron megis [[Cyrus Fawr]] o [[Ymerodraeth Persia]] ac [[Ashoka Fawr]] o [[India]]. Rhoddwyd pwyslais arnant yn [[Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau|Natganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau]] yn [[1776]] ac yn y [[Chwyldro Ffrengig]] yn [[1789]]. Daeth [[Confensiynau Genefa]] i fod rhwng [[1864]] a [[1949]] trwy ymdrechion [[Henry Dunant]], sefydlydd [[Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch]]. Carreg filltir bwysig oedd y [[Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol]] a fabwysiadwyd gan y [[Cenhedloedd Unedig]] ar [[10 Rhagfyr]], [[1948]].
|