Iudaea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 3:
Talaith [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] yn ardal [[Judea]] o'r wlad sy'n awr yn [[Israel]] oedd '''Iudaea''' ([[Hebraeg ]]: יהודה, [[Groeg (iaith)|Groeg]]: ''Ιουδαία''; [[Lladin]]: ''Iudaea''). Enwyd y dalaith ar ôl [[Teyrnas Judah]].
 
Cyrhaeddodd y Rhufeiniaid i'r ardal yn [[63 CC]], pan fu'r cadfridog [[Pompeius Magnus]] yn ymgyrchu yno. Diorseddwyd y brenin [[Judah Aristobulus II]], a gwnaed ei frawd [[Ioan Hyrcanus II]] yn frenin dan awdurdod Rhufain.

Am gyfnod bu Judea yn deyrnas dan benarglwyddiaeth Rhufain; o [[40 CC]] hyd [[4 CC]] roedd yn rhan o deyrnas [[Herod Fawr]]. Yn dilyn ei farwolaeth ef, rhannwyd ei deyrnas, gyda rheolwr pob rhan yn dwyn y teitl [[tertrarch]] ("rheolwr dros bedwaredd ran"). Tetrach Judea oedd mab Herod Fawr, [[Herod Archelaus]], ond yn [[6]] OC diorseddwyd ef gan yr ymerawdwr [[Augustus]] yn dilyn apêl iddo gan ddeiliaid Herod.
 
Cyfunwyd Judea gyda [[Samaria]] ac [[Idumea]] i greu talaith Rufeinig Iudaea. Bu nifer o wrthryfeloedd yn erbyn y Rhufeiniaid, yn cynnwys y [[Gwrthryfel Iddewig Mawr]] ([[66]]-[[70]]), [[Rhyfel Kitos]] ([[115]]-[[117]]) a gwrthryfel [[Simon bar Kochba]] ([[132]]-[[135]]). Wedi gwrthryfel Bar Kochba, newidiodd yr ymerawdwr [[Hadrian]] enw'r dalaith i ''[[Syria Palaestina]]'' ac enw [[Jeriwsalem]] i ''[[Aelia Capitolina]]''.