Gnaeus Pompeius Magnus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ganed ef [[Picenum]], lle roedd ei dad, Pompeius Strabo, yn ŵr cyfoethog ond heb fod yn aelod o'r hen deuluoedd oedd yn amlwg yng ngwleidyddiaeth Rhufain. Er hynny daeth ei dad yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn [[89 CC]].
 
Bu farw Pompeius Strabo yn [[87 CC]], yn ystod yr ymryson rhwng [[Gaius Marius]] a [[Lucius Cornelius Sulla]]. Pan ddaeth y newyddion yn [[84 CC]] fod Sulla ar fin dychwelyd i'r Eidal wedi'r rhyfel yn erbyn [[Mithridates]], brenin [[Pontus]], cododd Pompeius fyddin o dair lleng yn Picenum i'w gefnogi. Enillodd ffafr Sulla, a'i perswadiodd i ysgaru ei wraig i briodi [[Aemilia Scaura]], llysferch Sulla. Dangosodd Pompeius ei hun yn gadfridog galloug yn y rhyfeloedd hyn, yn yr Eidal ac yna yn ymladd yn erbyn cefnogwyr Marius yng Ngogledd Affrica a [[Sicilia]]. Cipiodd Sicilia yn [[82 CC]].
 
Rhwng [[76 CC|76]] a [[71 CC]] bu'n ymladd yn [[Sbaen]] yn erbyn [[Quintus Sertorius]], un arall o gefnogwyr Marius. Bu Sertorius yn elyn anodd ei orchfygu, ond yn [[72 CC]] llofruddiwyd ef gan un o'i swyddogion ei hun, [[Marcus Perperna Vento]], a gallodd Pompeius orchfygu Perperna i ddod a'r rhyfel yn Sbaen i ben.