Llenyddiaeth y Dadeni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Creuwyd drwy gyfieithu'r dudalen "Literatura del Renacimiento"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:24, 23 Mawrth 2017

Rhan o fudiad y Dadeni Dysg yn niwylliant Ewrop y 15g a'r 16g oedd llenyddiaeth y Dadeni. Ymgododd ei nodweddion cynharaf yn yr Eidal yn y 13g a 14g. Nodweddir gan yr adferiad o ddyneiddiaeth a dylanwadau eraill llên glasurol Roeg a Lladin. Lledaenodd gweithiau llenyddol yn gyflym ac ar raddfa eang yn sgil dyfodiad y wasg argraffu ym 1450.

Y Cardinal Pietro Bembo, un o fawrion y llenyddiaeth Eidaleg yn ystod y Dadeni.

Effeithiodd tueddiadau'r Dadeni ar destun, thema a ffurf. Ymhlith ei brif nodweddion, sy'n gyffredin i gelfyddydau'r Dadeni, yw dynweddiant, diddordeb yn natur, a mytholeg glasurol. Adferai athroniaeth y Dadeni syniadau Platonaidd er budd Cristnogaeth. Yn ogystal aeth llenorion ar drywydd pleser synhwyraidd a mabwysiadant meddylfryd beirniadol a rhesymolaidd yn eu gwaith. O ran yr agweddau ffurfiol, adferai'r traddodiad gorchmynnol (a chanddo'i wraidd yn y Farddoneg gan Aristoteles) ar sail yr egwyddor gelfyddydol o ddynwared. Datblygodd hefyd mathau a ffurfiau newydd ar ryddiaith, megis y traethawd, a mesurau mydryddol megis, er enghraifft gosod y ffurf stroffig i'r soned a'r llinell unsill ar ddeg yn brif fesur y farddoniaeth Eidaleg.

Gosododd Dante, Petrarch a Boccaccio sail i ysblander lenyddol yr Eidal yn y 16g. Llenor blaenaf y ganrif honno oedd Pietro Bembo, meistr y delyneg a'r soned Betrarchaidd ac yn anad dim yn feirniad chwaeth y llên Eidaleg, a lewyrchodd mudiad y Dadeni ar draws cyfandir Ewrop.

Yr Eidal

Llenyddiaeth gynnar

Dolce stil nuovo

Yn Fflorens y 13g fe ddatblygodd ffurf ar y delyneg ramant o'r enw dolce stil nuovo ("pêr arddull newydd"). Prif gyfansoddwyr y mudiad hwn oedd Guido Guinizelli, Guido Cavalcanti, a Cino da Pistoia.

 

Prif nodweddion y dolce stil nuovo yw:

  • Mynegiant gonest o'r teimladau, gan efelychu esiampl Sant Ffransis o Assisi o delyneg grefyddol a dynol.
  • Natur gysefin mewn cynghanedd â'r ddynolryw, delfryd glasurol y locus amoenus megis Gwynfa Eden, Meysydd Elysiwm neu Arcadia.
  • Perseinedd a cheinder iaith.
  • Amgyffred cariad yn brofiad trosgynnol sy'n rhoi doethindeb, dedwyddwch a chysylltiad dwyfol.
  • Personoliad o'r ddelfryd neo-Blatonaidd yw'r ferch: enaid angylaidd, pur, y donna angelica.
  • Iaith lafar Fflorens, neu dafodiaith Tysgani.

Dwyfol Gân Dante

Enghraifft glasurol o ddyneiddiwr oedd Dante Alighieri (1265-1321). Ysgrifennodd yn Lladin ac hefyd llafariaith Fflorens, gan roi i iaith y werin fynegiant llenyddol a arweiniodd at ddatblygiad yr iaith Eidaleg.

Adeg y trawsnewid Lladin gwerinol i'r Dysganeg, ysgrifennodd amddiffynniad o'r iaith lafar yn Lladin, De vulgari eloquentia (tua 1304). Dilynodd ei bregeth ei hun, gan arloesi safonau'r iaith Romáwns a elwir heddiw yn Eidaleg: La Vita Nuova (tua 1293) a La Commedia (1320).

  • Enghraifft glasurol o'r dolce stil nuovo yw La Vita Nuova. Trwy gyfrwng y soned a'r delyneg mewn cydwead â'r rhyddiaith eglurhaol, fe ddisgrifai'r awdur ei gariad Platonaidd at Beatrice.
  • Campwaith Dante, ac un o'r gweitihiau pwysicaf yn y canon Ewropeaidd, yw La Commedia neu La Divina Commedia (Dwyfol Gân Dante neu'r Gomedi Ddwyfol), aralleg fawreddog ar fesur y triban cadwyn, ffurf farddonol a luniodd Dante o'i ben a'i bastwn ei hun. Yn y gerdd hon mae'r awdur, yng nghwmni'r bardd Lladin Fyrsil, yn crwydro Uffern a Phurdan ac yna mae Beatrice yn ei arwain drwy Baradwys.

Nodir La Commedia am egni ei mynegiant, amrywiaeth ei emosiynoldeb, a gwreiddioldeb ei delweddaeth. Thema ganolog y gerdd yw tynged drosgynnol y ddynolryw a myfyrio ar yr enaid, a welir trwy fydolwg sy'n cyfuno'r Gristionogaeth a diwylliant y gwareiddiad Groeg-Rufeinig.

Dyma'r soned Tanto gentile e tanto onesto pare o La Vita Nuova, enghraifft o ganu serch Dante a rhagesiampl glir o gymeriadaeth angylaidd y fenyw yn ystod y Dadeni:

 
Portread o Dante gan Botticelli.
Tanto gentile e tanto onesta pare

la donna mia quand'ella altrui saluta,
ch'ogne lingua deven tremando muta,
e li occhi no l'ardiscon di guardare.

Ella si va, sentendosi laudare,
benignamente d'umiltà vestuta;
e par che sia una cosa venuta
da cielo in terra a miracol mostrare.

Mostrasi sì piacente a chi la mira,
che da per li occhi una dolcezza al core,
che'ntender non la può chi non la prova;

e par que de la sua labbia si mova
un spirito soave, pien d'amore,
che va dicendo a l'anima: sospira.

Petrarch a'i Canzoniere

Brodor o Arezzo oedd Francesco Petrarca neu Petrarch (1304-1374), ac efe yw cynddelw'r dyneiddiwr cynnar y Dadeni. Awdur toreithiog ydoedd yn Lladin ac Eidaleg, yn feistr sawl mesur ac yn ymdrin ag amryw bwnc a thema. Traddodai hanes y Rhyfeloedd Pwnig yn Lladin yn ei arwrgerdd anorffen Africa. Y delyneg oedd ei brif rodd i'r Dadeni, a gosododd ei gampwaith Il Canzoniere (1350) esiampl i feirdd yr Eidal a thu hwnt. Cyfansoddodd Il Canzoniere a cherddi eraill, megis yr aralleg Trionfi, yn Eidaleg y werin.

  • Casgliad yw'r Canzoniere o 317 o sonedau, 29 o canzoni, 9 sestina, 4 cerdd fadrigal, a 7 ballata sydd i gyd yn canu ei gariad at Laura, merch nad yw'n teimlo'r un serch at yr awdur. Mynegir dyneiddiaeth y teimladau mewn modd drwy'r dolce stil nuovo, ac ar batrwm La Vita Nuova yn arbennig. Megis Beatrice diddordeb Dante, merch go iawn oedd Laura, serch hynny'n ddelfryd ni ellir ei hennill, a'r hon sy'n peri gwrthdaro emosiynol y bardd. Disgrifai Petrarch ei serch yn nhermau'r meddwl, mewn modd cyn-seicolegol hyd yn oed, ac yn fanwl iawn. Dilynai'r mynegiant emosiynol hwn gan feirdd Ewrop ers canrifoedd.

Dyma soned sy'n nodweddiadol o delyneg Petrarch:

 
Darluniad o Laura a Petrarch yn Il Canzionere.
Onde tolse Amor l’oro, et di qual vena,

per far due trecce bionde? e ’n quali spine
colse le rose, e ’n qual piaggia le brine
tenere et fresche, et die’ lor polso et lena?

Onde le perle, in ch’ei frange et affrena
dolci parole, honeste et pellegrine?
onde tante bellezze, et sí divine,
di quella fronte, piú che ’l ciel serena?

Da quali angeli mosse, et di qual spera,
quel celeste cantar che mi disface
sí che m’avanza omai da disfar poco?

Di qual sol nacque l’alma luce altera
di que’ belli occhi ond’io ò guerra et pace,
che mi cuocono il cor in ghiaccio e ’n fuoco?

Boccaccio a'i Decameron

 
Naw o gymeriadau'r Decameron mewn darluniad gan John William Waterhouse (1916).

Giovanni Boccaccio (1313-1375) yn ôl y traddodiad yw dyfeisiwr y novella, stori fer hir ar bwnc serch gan amlaf. Casgliad o gant o'r fath straeon yw'r Decameron, sy'n trafod themâu cariad, deallusrwydd, a ffawd.

Byd y werin yw'r golygfeydd ac felly ceir straeon masweddus, y digrif a'r dwys, sy'n adlewyrchu'r newidiadau cymdeithasol yn Fflorens ar y pryd. Yn aml mae'r gwragedd yn y Decameron yn twyllo'u gwŷr. Dodir penillion o ganeuon gwerin Eidaleg mewn testun sawl stori.

Daw pwysigrwydd y Decameron yn bennaf o'i rhyddiaith gain a chraff, a osododd patrwm i lenorion hwyrach y Dadeni i'w efelychu. Yn ogystal, y Decameron oedd cynffurf y nofel lys, cyfrwng y novellieri Eidaleg, er enghraifft Mateo Bandello a Giraldi Cinthio, ac hefyd Sbaenwyr megis Juan de Timoneda (El Patrañuelo) a Cervantes (Novelas ejemplares).

Yr 16eg ganrif

Dante, Petrarch a Boccaccio oedd y triwyr penigamp a sbardunodd ffyniant llenyddol yr Eidal yn y 16g. Llenor blaenllaw y ganrif hon oedd Pietro Bembo, cyfansoddwr yn null Petrarch ond yn anad dim yn feirniad o fri ac yn safonwr y llên genedlaethol.

 
Rugiero salvando a Angélica (Ingres, 1819).
  • Mae'n bosib taw Ludovico Ariosto oedd mydryddwr disgleiriaf ei oes. Yn ei gerdd ffantasi epig Orlando furioso, codai pen llinyn stori Orlando Innamorato gan i'w awdur Matteo Maria Boiardo peidio â gorffen y rhamant honno. Mae Orlando yn cyfateb i Rolant yn chwedloniaeth Ffrainc, a chylchoedd myth a llên Ffrainc ac Ynys Brydain oedd yr ysbrydoliaeth am Orlando'r Eidalwyr. Traddodai anturiaethau'r marchog Orlando wrth iddo geisio ennill cariad Angelica ac yn mynd yn wallgof ar yr un pryd. Mae Angelica mewn cariad â'r milwr o Fwslim Medoro, ac yng nghynddaredd ei genfigen mae Orlando'n difetha popeth yn ei ffordd. Mae ei gyfaill Astolfo yn teithio i'r lleuad ar gefn marchriffwn i ganfod elicsir callineb. Trwy gydol yr adroddiant, a chanddo iaith flodeuog a ffansïol, câi'r gerdd ei britho â straeon byrion. Cafodd Orlando furioso mwy o ddylanwad na cherdd Boiardo, ac yn wrthrych sawl cyfieithiad, dilyniant, efelychiad, ac ailwampiad. Campwaith Ariosto oedd prif batrwm yr arwrgerdd yn llenyddiaeth y Dadeni.

Pwrpas rhyddiaith addysgol y Dadeni oedd i ddisgrifio a chyfarwyddo normau newydd ysbryd yr oes. Ymhlith y clasuron mae Il Cortegiano gan Baldassare Castiglione, llyfr moes y llys a'i ddefod, ac Il Principe gan Niccolò Machiavelli, traethawd ar bwnc damcaniaeth wleidyddol.


Yr Almaen

 
Hans Sachs.

Yr Almaenwr Johannes Gutenberg oedd yn gyfrifol am ddyfeisio'r wasg argraffu ym 1533. Dyma un o'r datblygiadau pwysicaf yn hanes y byd, gan iddo alluogi cyhoeddi llyfrau a dogfennau eraill ar raddfa eang. Tyfodd diwylliant torfol yn Ewrop a chynyddodd y gyfradd lythrennedd. Lledaenodd ysgrifau'r dyneiddwyr ar draws y gwledydd Almaeneg ac eginai meddylfryd beirniadol ymysg y bobl, gan arwain at y Diwygiad Protestannaidd protestante. Ymhlith y prif lenorion oedd Erasmus, Iseldirwr a drigai yn Basel, a Johannes Reuchlin, er i'r ddau ohonynt ysgrifennu'n Lladin yn bennaf ac felly dim ond yn ddylanwadol ymhlith ysgolheigion. Arferai Erasmus lladd ar gredoau arwynebol a llygredigaeth foesol yr Eglwys Gatholig yn ei Colloquia, gan ddefnyddio arddull ymgom y rhethregwr a dychanwr Lucianus. Llenorion eraill yn yr un cywair ond yn fwy poblogaidd oedd y bardd Ulrich von Hutten (1488-1523) a'r dychanwr Sebastian Brant (1458-1521), awdur Das Narrenschiff. Darluniwyd y gwaith gan Albrecht Dürer, ac hwn oedd y cyhoeddiad mwyaf boblogaidd yn yr Almaeneg nes Die Leiden des jungen Werthers gan Goethe.

Mudiad mwyaf drawiadol y cyfnod oedd y Diwygiad Protestannaidd, a gychwynnodd o ganlyniad i ddiwinyddiaeth Martin Luther (1483-1546). Ysgrifennodd Luther yn iaith y werin, a chyfieithoedd y Beibl i'r Almaeneg gan osod sylfaen i'r iaith lenyddol genedlaethol a sbarduno datblygiad y ffurf Almaeneg fodern. Ar wahân i lenyddiaeth grefyddol, roedd cyfansoddiadu'r Meistersingers, straeon dychan Schwank, a dramâu'r Fastnachtsspiel i gyd yn hynod o boblogaidd, yn enwedig gwaith Hans Sachs (1494-1576) a Jörg Wickram (tua 1505-cyn 1562). Awdur arall o'r 16g oedd y dychanwr chwyrn Johann Fischart (1546-1590) o Strasbwrg, a'i gampwaith yw Affentheurlich Naupengeheurliche Geschichtklitterung.

Ffurf lenyddol boblogaidd ar y pryd oedd y Volksbuch, pamffled neu lyfryn sieb a gyhoeddir heb enw'r awdur, ac yn debyg i'r llenyddiaeth dihirod yn Lloegr. Yn y cyfrwng hwn oedd D. Johann Fausten, diweddariad ar chwedl Faust, ac anturiaethau'r dihiryn Till Eulenspiegel.

Yr Iseldiroedd

 
Darluniad gan Hans Holbein yr Ieuaf ar ymyl tudalen yng nghopi Oswald Myconius o Stultitiae Laus gan Erasmus (argraffiad 1515).

Desiderius Erasmus a'i gyd-ddyneiddwyr oedd prif lenorion yr Iseldiroedd yn y 16g. Cyhoeddai'r llên ddyneiddiol yn Lladin yn bennaf. Sbardunodd y Dadeni hefyd ymdrech i safoni iaith lenyddol i drosegynnu'r tafodieithoedd Iseldireg a sefydlu iaith genedlaethol, gan gynnwys cyfieithiadau Protestannaidd o'r Beibl.

Dechreuodd y broses hir hon gyda'r gwrthwynebiad Protestannaidd i ormes Babyddol Philip II, Brenin Sbaen. Ymdrechodd y Protestaniaid i gyfieithu testunau Beiblaidd megis y Sallwyr i'r Iseldireg. Jan Utenhove oedd y cyntaf i drosi'r Testament Newydd i'r Iseldireg. Ysgrifennodd Philips van Marnix ddychanau ar yr Eglwys Gatholig. Gosododd y dyneiddwyr Dirck Volckertszoon Coornhert ac Erasmus sail i lenyddiaeth Oes Aur yr Iseldiroedd yn y 17g. Uchafbwynt ar dro'r Dadeni a'r Oes Aur oedd cyfieithiad y Beibl o'r ieithoedd gwreiddiol i'r Iseldireg, y Statenvertaling ("Beibl y Taleithiau"), a hwnnw'n esiampl o ffurf lenyddol gyffredin yr iaith. Rhagorodd dyneiddwyr eraill ar y ddrama. Dylanwadodd Willem van de Voldersgraft (neu Wilhelm Gnapheus) yn gryf ar ei olynwyr gyda'i ddrama ar stori'r mab afradlon Acolastus (1529) a'i gomedi Morosophus (1531). Ysgrifennodd Joris van Lanckvelt (Georgius Macropedius) y comedi Andrisca a'r ddrama Hecastus (1539) a gafodd ei chyfieithu a'i hailargraffu droeon a'i throsi i'r Almaeneg gan y bardd Protestannaidd o fri Hans Sachs. Cyhoeddodd Macropedius hefyd nifer o werslyfrau, er enghraifft canllaw ysgrifennu llythyron o'r enw Epistolica. Fel athro cafodd dylanwad ar ei ddisgyblion, gan gynnwys y daearyddwr Gerardus Mercator.

Mae'n debyg taw Stultitiae Laus gan Erasmus, dychan ar droseddau cymdeithas a'r eglwys, yw'r gwaith dyneiddiol Iseldiraidd a gyfieithid i'r nifer fwyaf o ieithoedd.

Sbaen

 
Portread o Alfonso V, brenin Aragón gan Juan de Juanes. Mae'r llyfr agored o dan ei goron yn cyfeirio at ei ddiddordeb yn llenyddiaeth.

Daeth y Dadeni i Sbaen yn gynnar. Er i ddylanwadau Eidalaidd gyrraedd y wlad yn y 15g, yn enwedig yn llys Alfonso V, Brenin Aragon, a chan yr athrawon Lucio Marineo Siculus, Antonio Beccadelli a Lorenzo Valla, ni chafodd y Dadeni effaith sylweddol ar y Sbaenwyr nes i Garcilaso de la Vega a Juan Boscán, ar awgrym Andrea Navagero, fabwysiadu mesurau ac arddulliau'r beirdd Eidaleg, a hynny yn ail chwarter y 16g. Dyrchafwyd Garcilaso yn "Dywysog Beirdd Sbaen", ac yn syth ymddangosodd llu o feirdd i'w efelychu: Gutierre de Cetina, Diego Hurtado de Mendoza, ac Hernando de Acuña).

Yn ail hanner y 16g ymrannodd yr arddulliau barddonol yn dri gwahanol gyfeiriad. Esblygodd un yn Ddarddulliaeth, a nodir gan waith Francisco de Aldana, oedd yn hyddysg ym marddoniaeth Eidalaidd y cyfnod, a Fernando de Herrera, a gysylltodd perseinedd Garcilaso ag arddull baróc Luis de Gongora. Tueddai'r ail gyfeiriad at ysbrydegaeth Gristnogol, naill ai yn nhraddodiad asgetaidd Fray Luis de León neu gyfriniaeth John y Groes a St Teresa Iesu. YGwrth-Ddiwygiad yng nghanol y ganrif oedd y sbardun uniongyrchol i'r farddoniaeth grefyddol hon. Canolbwyntiodd y trydydd cyfeiriad ar farddoniaeth draethiadol a ddychwelai at fesurau traddodiadol Castilaidd ac wythsill fywiog y Romancero, y baledi rhamant. Ymhlith y Romancero nuevo mae rhai o lenorion mwyaf yr iaith Sbaeneg: Cervantes, Lope de Vega, a Gongora. Adferai hefyd y delyneg cancioneril wythsill o'r cyfnod cyn y Dadeni, a gyhoeddyd casgliadau o ganeuon megis Cancionero general gan Hernando del Castillo (1511, ailargraffwyd wyth gwaith yn y 16g). Cyrhaeddodd y gerdd naratif ei hanterth gyda'r arwrgerdd La Araucana gan Alonso de Ercilla, sy'n adrodd hanes concwest Tsili gan y Sbaenwyr.

Nodir dwy brif ffrwd yn llên y dyneiddwyr Sbaenaidd: traddodiad coeth a dysgedig yn Lladin (Luis Vives, Juan Ginés de Sepúlveda, Hernán Núñez de Toledo, Benito Arias Montano, Francisco Sánchez de las Brozas o Juan de Mariana), a mudiad i boblogeiddio'r diwylliant clasurol drwy gyfrwng y Sbaeneg. Cychwynwyd y mudiad Sbaeneg gan y Darddulliwr Antonio de Guevara yn ei Epístolas familiares (1539) ac ysgrifwyr Erasmaidd megis y brodyr Juan ac Alfonso de Valdés, Pero Mexía, a Luis Zapata, a'u llyfrau amrywiol (misceláneas). Campau ucha'r cyfnod parthed ieitheg yr iaith Sbaeneg oedd y Biblia políglota complutense (1520), y Beibl amlieithog cyntaf erioed, a'r Biblia del oso (1569), y cyfieithiad cyflawn cyntaf o'r Beibl a drosir o'r ieithoedd gwreiddiol i'r Sbaeneg a hynny gan y Protestant Cipriano de Valera. Pwysig hefyd oedd gwaith y croniclwyr yn y Byd NewyddHernán Cortés (Cartas de relación), Bartolomé de las Casas (Historia de las Indias,1517), Bernal Díaz del Castillo (Historia verdadera de la conquista de la Nueva España, 1575), Álvaro Núñez Cabeza de Vaca, Francisco de Jerez, Gonzalo Fernández de Oviedo, Pedro Cieza de León, ac el Inca Garcilaso de la Vega. Gweithiau eraill o nod yw Lazarillo de Tormes, y stori bicarésg gyntaf a gyhoeddwyd yn ddienw ym 1554, a'r nofel bicarésg Guzmán de Alfarache gan Mateo Alemán (1599 a 1604). Don Quijote de la Mancha gan Miguel de Cervantes yw'r nofel fodern gyntaf, a gyhoeddwyd mewn dwy ran yng nghyfnod diweddar y Dadeni (1605 a 1615). Parodi o lyfrau sifalri a'r marchog crwydr yn benodol yw Don Quixote, ac mae'n cwmpasu llawer mwy na'r hen straeon rhamant drwy grynhoi genres y Dadeni a chyflwyno bydolwg mwy gymhleth a dadleuol i lenyddiaeth Ewrop.

Cychwynnai'r Dadeni yn y theatr Sbaeneg gyda La Celestina (1499 a 1502), campwaith Fernando de Rojas a'r cyntaf o ddramâu'r genre celestinesco megis La lozana andaluza (1528) gan Francisco Delicado a Segunda Celestina (1534) gan Feliciano de Silva. Roedd yr arddull realaidd hon yn groes i ffuglen ddelfryd y straeon rhamant (Amadís de Gaula, 1508, Palmerín de Inglaterra, 1547-8, Tirante el Blanco, 1511); y nofel fugeiliol (Los siete libros de la Diana (1559) gan Jorge de Montemayor), y nofel Fwraidd (Historia del Abencerraje y la hermosa Jarifa, 1565), a'r nofel sentimental (Cárcel de amor, 1492, gan Diego de San Pedro, Proceso de cartas de amores, 1548, gan Juan de Segura). Ymhlith dramodwyr eraill y 16g gynnar oedd Juan del Encina (Églogas), Gil Vicente (Tragicomedia de Don Duardos), a Bartolomé Torres Naharro (Propalladia). Yn ail hanner y 16g cafwyd comedïau Lope de Rueda (Pasos, 1567), trasiedïau clasurol Jerónimo Bermúdez (Nises), Cervantes (Numancia, 1585), ac arddull theatraidd chwyldroadol Lope de Vega (1562-1635), un o lenorion mwyaf gynhyrchiol y byd, a'i ddisgyblion Guillén de Castro (1569-1631) a Juan de la Cueva (1543-1612).

Portiwgal

 
Os Lusíadas gan Camões.

Megis Sbaen, cyrhaeddodd y Dadeni Bortiwgal drwy gysylltiadau Eidalaidd ar ddechrau'r 16g. Cyflwynodd Francisco de Sá de Miranda fesurau ac arddulliau'r Eidal i farddoniaeth Bortiwgaleg. Roedd yn gyfaill i'r Sbaenwr, ac ym mugeilgerdd Nemoroso fe ganai marwnad iddo. Yn ogystal â'r fath eclogau, cyfansoddodd sonedau, telynegion Petrarchaidd, a ffurfiau eraill ar ddelw'r Eidalwyr.

Bardd enwocaf Portiwgal yw Luís de Camões, cyfansoddwr cerddi epig a thelynegol yn y Bortiwgaleg a'r Sbaeneg a fe'i nodir am ei sonedau o'r ansawdd uchaf. Ei gampwaith yw Os Lusíadas, arwrgerdd genedlaethol y Portiwgeaid. Mae'n traddodi hanes y morwyr a fforwyr o Bortiwgal, yn enwedig alltaith Vasco de Gama i'r India, llawn antur, helyntion a pherygl, brwydrau a llongddrylliadau. Ochr yn ochr â'r enwau hanesyddol, crybwyllai chwedlau'r môr a straeon gwerin Portiwgal, gan gynnwys rhamant a thrasiedi Inês de Castro ac ymdrech Bartolomeu Dias i hwylio rownd Penrhyn y Dymestl.

Ffrainc

Pierre de Ronsard oedd prif fardd Ffrainc yn ystod y Dadeni. Ronsard a Joachim du Bellay oedd sefydlwyr cylch La Pléiade.

 
Pierre de Ronsard.
  • Ysgrifennodd Du Bellay La Défense et illustration de la langue française, maniffesto llenyddol La Pléiade. Datganodd o blaid y traddodiad clasurol, ac argymhellai llenorion Ffrainc i efelychu mesurau a safonau'r hen Roegwyr, y Rhufeiniaid a'r Eidalwyr. Ymhlith ei delynegion mae Les Antiquités de Rome, cerdd sy'n myfyrio ar gwymp y byd Rhufeinig, a Les Regrets, casgliad o sonedau a chanddynt dôn fynwesol at sylw ei gyd-feirdd yn La Pléiade.
  • Cyfansoddodd Ronsard yr awdl glasurol yn Les Odes ar batrwm y Groegwr Pindar a'r Rhufeiniwr Horas. Dynwaredodd Il Canzoniere, llyfr caneuon Petrarch, yn Les Amours, casgliad o sonedau cariad. Mae ei emynau'n ymdrin â themâu athroniaeth, crefydd, a gwleidyddiaeth. Ceisiodd hefyd gyfansoddi arwrgerdd i'w genedl: La Franciade, ar efelychiad yr Aenid gan Fyrsil.

Un o feistri'r rhyddiaith ffuglen oedd Rabelais, awdur y dychan Gargantua a Pantagruel. Llunia'r campwaith hwn byd ben ei waered ac yn llawn hiwmor a ffantasi, a'i nod yw pigo a gwawdio arferion y Ffrancod.

Cawr y rhyddiaith ddidactig oedd Michel de Montaigne, y traethodydd cyntaf. Arloesodd y math hwn o ysgrif yn ei gasgliad Essais (1580), gan gyfuno adlewyrchiadau personol gyda barn yr awdur er sylw'r darllennydd.

Lloegr

 
William Shakespeare.

Roedd y Dadeni Dysg yn hwyr i gyrraedd Lloegr. Ni welwyd ei wir effaith hyd nes teyrnasiad y Frenhines Elisabeth I yn ail hanner y 16g. Amlygai'r dylanwadau Eidalaidd a chlasurol yn enwedig yn y theatr Saesneg.

Dychwelodd y chwaraeawd ddramatig i'r llwyfan gan gymryd lle'r ddrama foes. William ShakespeareChristopher Marlowe a Ben Jonson oedd prif ddramodwyr y cyfnod.

Cyfrwng byrfyfyr oedd y commedia dell'arte a berfformia yn strydoedd yr Eidal a Ffrainc, ond dysgodd yr actor Seisnig ei linellau o'r sgript. Ysgrifennodd Shakespeare comedïau arloesol yn ogystal â'i drasiedïau clasurol ac hanesion canoloesol.

Addasodd y telynegwr Thomas Wyatt y soned Eidalaidd i fydr y Saesneg. Fe'i ddilynwyd gan Henry Howard, Philip Sidney ac Edmund Spenser yn ogystal â Shakespeare. Profodd Spenser ei hunan yn feistr yr arwrgerdd drwy gyfansoddi The Faerie Queene (1597), epig arallegol ac yn dilyn model Ludovico Ariosto o farddoniaeth llawn rhamant ac antur.


Thomas More oedd cynrychiolydd enwoca'r rhyddiaith ddyneiddiol, ac yn ei waith Utopia fe luniodd y gymdeithas ddelfrydol.

Darllen pellach