Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Llenyddiaeth y Dadeni"

Ychwanegwyd 2,910 beit ,  2 flynedd yn ôl
→‎Cymru: copïo testun o'r erthygl Llenyddiaeth Gymraeg
B (cat)
(→‎Cymru: copïo testun o'r erthygl Llenyddiaeth Gymraeg)
 
[[Thomas More]] oedd cynrychiolydd enwoca'r rhyddiaith ddyneiddiol, ac yn ei waith ''Utopia'' fe luniodd y [[Iwtopia|gymdeithas ddelfrydol]].
 
== Cymru ==
{{Prif|Llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar bymtheg}}
Cyrhaeddasai newidiadau'r Dadeni [[Cymru|Gymru]] erbyn canol y 16g a newidiwyd diwylliant y wlad o ganlyniad. Codwyd to o ddyneiddwyr a oedd yn awyddus i weld Cymru a'r Gymraeg yn rhan o'r datblygiadau hyn. Bu newidiadau mawr yng ngwleidyddiaeth a chrefydd y wlad yn ogystal. Cafwyd [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Deddfau Uno yn 1536 a 1543]]. [[Diddymu'r mynachlogydd|Diddymwyd y mynachlogydd]] (1536-39) a sefydlwyd [[Eglwys Loegr]] a'r ffydd [[Protestaniaeth|Brotestannaidd]] yn grefydd swyddogol Cymru a Lloegr, ac yna cafwyd deddf yn 1563 yn gorchymyn [[cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg]]. Ond glynodd rhai Cymry wrth yr [[Eglwys Gatholig]] a chyfranodd Cymru i'r [[Gwrth-Ddiwygiad]] yn ogystal. Cafodd y newidiadau hyn i gyd effaith fawr ar [[llenyddiaeth Gymraeg|lenyddiaeth Gymraeg]].
 
Ond cymerodd amser i ddiwylliant Cymru newid. Parhaodd y traddodiad barddol trwy gydol y ganrif, er ei wanychu'n raddol wrth i'r beirdd golli nawdd. Cynhyrchodd y ganrif rhai o feirdd mwyaf dosbarth [[Beirdd yr Uchelwyr]], e.e. [[Lewis Môn]] (c.1480-1520), [[Tudur Aled]] (c.1480-1525), [[Lewys Morgannwg]] (c.1520-50), [[Gruffudd Hiraethog]] (m. 1564), [[Wiliam Llŷn]] (m. 1580) a [[Wiliam Cynwal]] (m. 1587). Ceir nifer o destunau rhyddiaith sy'n perthyn i draddodiad yr Oesoedd Canol hefyd, e.e. Cronicl anferth [[Elis Gruffydd]] o Chwech Oes y Byd a nifer o gyfieithiadau ac addasiadau o weithiau Lladin, Ffrangeg a Saesneg, i gyd yn destunau llawysgrif.
 
Mae'n ddiamau fod [[canu rhydd]], cerddi digynghanedd, wedi bod yn rhan o lenyddiaeth Gymraeg ers yr Oesoedd Canol cynnar, ond yn y 16eg ganrif ceir toreth o gerddi ar fesurau a thonnau newydd, nifer fawr ohonynt yn dangos dylanwad canu poblogaidd tebyg yn Lloegr. Ond daeth hen ffurfiau cynhenid Gymraeg i'r amlwg yn ogystal a cheir [[carol]]au cynghanedig, [[cwndid]]au a mesurau eraill. Ceir nifer fychan o destunau [[drama|dramâu]] mydryddol poblogaidd hefyd, yn cynnwys hanes y Croeshoelio ac ''Ymddiddan yr Enaid a'r Corff''. Perthyn i lenyddiaeth uwch yw'r ddrama ''[[Troelus a Chresyd]]'', a gyfansoddwyd ar ddiwedd y ganrif.
 
Gellir dosbarthu'r rhyddiaith newydd, ffrwyth y Dadeni Dysg, yn ddwy ffrwd, un gan awduron dyneiddiol Protestannaidd a'r llall gan y [[Gwrth-ddiwygwyr Cymreig]]. Cyhoeddwyd ''[[Yn y lhyvyr hwnn]]'' gan Syr [[John Price]] yn [[1546]], y llyfr Cymraeg cyntaf i gael ei argraffu. Dilynwyd hynny yn 1567 gan ''[[Oll Synnwyr Pen Kembero ygyd]]'' [[William Salesbury]]. Yn [[1567]] cyhoeddoedd William Salebury y [[Testament Newydd]] yn Gymraeg a chyfieithiad o'r [[Llyfr Gweddi Gyffredin]]. Ond ''[[Y Drych Cristianogawl]]'', gwaith y Gwrth-Ddiwygwyr, oedd y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, a hynny yn y dirgel. [[Gruffydd Robert]] oedd yr awdwr, ac ef hefyd a ysgrifenodd y ''[[Dosbarth Byrr ar y rhann gyntaf i ramadeg cymraeg]]'' yn [[1567]].
 
== Darllen pellach ==
64,150

golygiad