Marcus Licinius Crassus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Ymddengys fod Crassus yn drydydd mab I’r [[Conswl Rhufeinig|conswl]] Publius Licinius Crassus Dives. Lladdwyd ei dad ac un o’I frodyr yn Rhagfyr 87 CC wedi i [[Gaius Marius]] gipio grym yn Rhufain. Ffodd Crassus I [[Sbaen|Hispania]] ac yna i Ogledd Affrica., cyn ymuno a [[Lucius Cornelius Sulla|Sulla]] pan ddychwelodd ef i’r Eidal. Roedd yn gadfridog ar ran o fyddin Sulla pan orchfygwyd gweddillion cefnogwyr Marius a'r [[Samnitiaid]] tu allan i Rufain
 
Roedd teulu Crassus eisoes yn gyfoethog, a daeth ef yn gyfoethocach fyth. Dywedir iddo ffurfio math ar frigad dân yn Rhufain. Pan fyddai tŷ ar dân, byddai Crassus yn dod yno ac yn cynnig ei brynu am bris isel; yna byddai ei wŷr yn diffodd y tân. Trwy ei gyfoeth enillodd rym yn Rhufain, a pan wrthryfelodd y caethweision dan [[Spartacus]] roddwyd y gwaith o ddelio a’r gwrthryfel i Crassus. Bu’n ymgyrch hir, ond yn y[[71 diweddCC]] gorchfygodd Crassus fyddin Spartacus. [[Croeshoelio| croeshoeliodd]] Crassus chwe mil o garcharorion ar hyd y ''[[Via Appia]]''.
 
Yn [[60 CC]] daeth Crassus i gytundeb i rannu grym gyda [[Iŵl Cesar]] a [[Gnaeus Pompeius Magnus]]. Yn [[55 CC]] roedd yn gonswl am yr ail dro, a rhoddwyd [[Syria]] iddo fel talaith. Roedd Crassus yn awyddus am lwyddianau milwrol, i gystadlu a Cesar a Pompeius, a chroesodd [[Afon Euphrates]] mewn ymgais i goncro [[Parthia]]. Gorchfygwyd ei fyddin gan y Parthiaid ym [[Brwydr Carrhae|Mrwydr Carrhae]] ([[Harran]] yn [[Twrci|Nhwrci]] heddiw) yn [[53 CC]], pan laddwyd mab Crassus. Yn fuan wedi’r frwydr aeth Crassus at y Parthiaid i drafod telerau, ond cipiwyd ef a’i ladd. Mae chwedl i’r Parthiaid ei ladd trwy dywallt aur tawdd i lawr ei wddf, i geisio diwallu ei wanc am aur.