Bangor-is-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi symud Bangor-is-y-coed i Bangor Is Coed: y ffurf fwyaf arferol?
Llinell 7:
 
==Mynachlog Bangor Is-coed==
Roedd [[clas]] (mynachlog) '''Bangor Is- Coed''' yn ganolfan [[crefydd]] a [[dysg]] pwysig iawn yn hanes cynnar [[Cymru]] a'r [[PrydainYnys Brydain|Brydain]] [[Celtiaid|Geltaidd]]. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant [[Dunawd]] yn y [[6ed ganrif]], gyda'i feibion [[Deiniol]] Wyn (nawddsant [[Bangor]] yng [[Gwynedd|Ngwynedd]]), [[Cynwyl]] a [[Gwarthan]]. Roedd y sant wedi ffoi o'r [[Hen Ogledd]] a chafodd heddwch a lloches ar lannau [[Afon Dyfrdwy]] ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno. Daeth yn ganolfan bwysicaf [[cantref]] [[Maelor]] (a chwmwd [[Maelor Gymraeg]] yn ddiweddarach).
 
Yn ôl yr hanesydd o [[Saeson|Sais]] [[Beda]], cafodd Bangor Is-Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl [[Brwydr Caer]] (tua [[615]] neu [[616]]). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin [[Aethelfrith]] o [[Deira|Ddeira]] ([[Northumbria]] heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.
 
Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.