Llenyddiaeth y Dadeni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yn fy mhorwr i (Safari) roedd bwlch rhwng y llinell gyntaf a'r ail linell o'r cerddi. Gobeithio mae'r ateb 'ma'n gweithio mewn porwyr eraill hefyd.
Llinell 113:
Daeth y Dadeni i Sbaen yn gynnar. Er i ddylanwadau Eidalaidd gyrraedd y wlad yn y 15g, yn enwedig yn llys Alfonso V, Brenin Aragon, a chan yr athrawon Lucio Marineo Siculus, Antonio Beccadelli a Lorenzo Valla, ni chafodd y Dadeni effaith sylweddol ar y Sbaenwyr nes i Garcilaso de la Vega a Juan Boscán, ar awgrym Andrea Navagero, fabwysiadu mesurau ac arddulliau'r beirdd Eidaleg, a hynny yn ail chwarter y 16g. Dyrchafwyd Garcilaso yn "Dywysog Beirdd Sbaen", ac yn syth ymddangosodd llu o feirdd i'w efelychu: Gutierre de Cetina, Diego Hurtado de Mendoza, ac Hernando de Acuña).

Yn ail hanner y 16g ymrannodd yr arddulliau barddonol yn dri gwahanol gyfeiriad. Esblygodd un yn Ddarddulliaeth, a nodir gan waith Francisco de Aldana, oedd yn hyddysg ym marddoniaeth Eidalaidd y cyfnod, a Fernando de Herrera, a gysylltodd perseinedd Garcilaso ag arddull [[baróc]] Luis de Gongora. Tueddai'r ail gyfeiriad at ysbrydegaeth Gristnogol, naill ai yn nhraddodiad asgetaidd Fray Luis de León neu gyfriniaeth John y Groes a St Teresa Iesu. Y [[ Gwrth-Ddiwygiad]] yng nghanol y ganrif oedd y sbardun uniongyrchol i'r farddoniaeth grefyddol hon. Canolbwyntiodd y trydydd cyfeiriad ar farddoniaeth draethiadol a ddychwelai at fesurau traddodiadol Castilaidd ac wythsill fywiog y ''Romancero'', y baledi rhamant. Ymhlith y ''Romancero nuevo ''mae rhai o lenorion mwyaf yr iaith Sbaeneg: Cervantes, Lope de Vega, a Gongora. Adferai hefyd y delyneg ''cancioneril ''wythsill o'r cyfnod cyn y Dadeni, a gyhoeddyd casgliadau o ganeuon megis ''Cancionero general ''gan Hernando del Castillo (1511, ailargraffwyd wyth gwaith yn y 16g). Cyrhaeddodd y gerdd naratif ei hanterth gyda'r arwrgerdd ''La Araucana ''gan Alonso de Ercilla, sy'n adrodd hanes concwest Tsili gan y Sbaenwyr.

Nodir dwy brif ffrwd yn llên y dyneiddwyr Sbaenaidd: traddodiad coeth a dysgedig yn Lladin (Luis Vives, Juan Ginés de Sepúlveda, Hernán Núñez de Toledo, Benito Arias Montano, Francisco Sánchez de las Brozas o Juan de Mariana), a mudiad i boblogeiddio'r diwylliant clasurol drwy gyfrwng y Sbaeneg. Cychwynwyd y mudiad Sbaeneg gan y Darddulliwr Antonio de Guevara yn ei ''Epístolas familiares'' (1539) ac ysgrifwyr Erasmaidd megis y brodyr Juan ac Alfonso de Valdés, Pero Mexía, a Luis Zapata, a'u llyfrau amrywiol (''misceláneas''). Campau ucha'r cyfnod parthed ieitheg yr iaith Sbaeneg oedd y ''Biblia políglota complutense ''(1520), y Beibl amlieithog cyntaf erioed, a'r ''Biblia del oso ''(1569), y cyfieithiad cyflawn cyntaf o'r Beibl a drosir o'r ieithoedd gwreiddiol i'r Sbaeneg a hynny gan y Protestant Cipriano de Valera. Pwysig hefyd oedd gwaith y croniclwyr yn [[Yr Amerig|y Byd Newydd]]: [[Hernando Cortés|Hernán Cortés]] (Cartas de relación), Bartolomé de las Casas (''Historia de las Indias'',1517), Bernal Díaz del Castillo (''Historia verdadera de la conquista de la Nueva España'', 1575), Álvaro Núñez Cabeza de Vaca, Francisco de Jerez, Gonzalo Fernández de Oviedo, Pedro Cieza de León, ac el Inca Garcilaso de la Vega. Gweithiau eraill o nod yw ''Lazarillo de Tormes'', y stori bicarésg gyntaf a gyhoeddwyd yn ddienw ym 1554, a'r nofel bicarésg ''Guzmán de Alfarache'' gan Mateo Alemán (1599 a 1604). ''[[Don Quixote|Don Quijote de la Mancha]]'' gan [[Miguel de Cervantes]] yw'r nofel fodern gyntaf, a gyhoeddwyd mewn dwy ran yng nghyfnod diweddar y Dadeni ([[1605]] a [[1615]]). Parodi o lyfrau [[sifalri]] a'r [[marchog crwydr]] yn benodol yw Don Quixote, ac mae'n cwmpasu llawer mwy na'r hen straeon rhamant drwy grynhoi genres y Dadeni a chyflwyno bydolwg mwy gymhleth a dadleuol i lenyddiaeth Ewrop.