Spartacus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Arweinydd byddin o gaethweision yn erbyn [[Gweriniaeth Rhufain|Rhufain]] oedd '''Spartacus''' (bu farw [[71 CC]]).
 
Nid oes sicrwydd am hanes cynnar Spartacus; dywed rhai haneswyr ei fod wedi ei gymeryd yn garcharor wrth ymladd yn erbyn Rhufain, eraill ei fod wedi bod yn filwr ym myddin Rhufain, wedi dianc ac yna wedi cael ei ddal. Dywedir ei fod yn frodor o [[Thrace]]. Yn [[73 CC]] roedd mewn ysgol hyfforddi [[gladiator]] yn perthyn i [[Lentulus Batiatus]] gerllaw [[Napoli]]. Y flwyddyn honno, llwyddodd i ddianc gyda 70 neu 80 arall. Ffoesant i [[Mynydd Vesuvius|Fynydd Vesuvius]], ac yn raddol tyfodd ei fyddin nes cynnwys tua 70,000 o gaethweision wedi dianc.
 
Llwyddodd y fyddin o gaethweision i orchfygu dwy [[Lleng Rufeinig|leng Rufeinig]] a yrrwyd yn eu herbyn. Yng ngwanwyn [[72 CC]] symudodd y fyddin tua'r gogledd, gan orchfygu tair lleng Rhufeinig arall. Ymddengys mai cynllun gwreiddiol Spartacus oedd croesi'r [[Alpau]] i adael yr Eidal, ond yn y diwedd troi yn ôl tua'r de wnaeth y rhan fwyaf o'r fyddin. Gorchfygasant ddwy leng arall dan [[Marcus Licinius Crassus]].