Dosbarth hamddenol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Canrifoedd a manion using AWB |
||
Llinell 1:
[[Dosbarth cymdeithasol|Haen o'r gymdeithas]] a gyfansoddir gan [[elit]] sydd yn arddangos yn rheolaidd eu statws yw'r '''dosbarth hamddenol'''. Cysylltir y syniad yn arbennig â'r economomydd cymdeithasegol Americanaidd [[Thorstein Veblen]] a gyhoeddodd ''[[The Theory of the Leisure Class]]'' yn 1899.<ref>http://www.econlib.org/library/Enc/bios/Veblen.html</ref> Wrth sefydlu statws mae [[gwariant]] yn bwysicach nag [[incwm]] ac yn aml fe enillir gwell statws trwy [[treuliant amlwg|dreuliant amlwg]] (''conspicuous consumption''). Gwelir felly dyfodiad dosbarth hamddenol sydd yn dominyddu ac yn diraddio [[hamdden]] o fewn cymdeithas; ond, gallai'r broses hon fod yn nodwedd anhepgorol yn y [[cyfalafiaeth|system economaidd gyfalafol]].<ref>http://climateandcapitalism.com/2012/06/13/conspicuous-consumption-destroying-earth/</ref> Perthyn syniadau Veblen i gategori dadansoddiadau beirniadol o'r gymdeithas nwyddau traul, ffurf ar drafodaeth sydd yn gysylltiedig ag awduron megis [[Lewis Mumford]] a [[J. B. Priestley]]. Gorwedd arwyddocâd cyfoes syniadau Veblen yn y ffaith y ceir mewn cymdeithasau cyfoethog rhannau mawr o'r boblogaeth sydd yn rhannu egwyddorion ac agweddau'r dosbarth hamddenol.
== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Dosbarthiadau cymdeithasol|Hamddenol]]▼
{{eginyn cymdeithaseg}}
{{eginyn economeg}}
▲[[Categori:Dosbarthiadau cymdeithasol|Hamddenol]]
|