Deallusrwydd artiffisial: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhai cerrig milltir pwysig
→‎top: Canrifoedd a manion using AWB
Llinell 1:
[[FileDelwedd:Automated online assistant.png|bawd|Gwasanaethferch artiffisial ar wefan siop; 2010.]]
Technoleg a changen o [[Cyfrifiadureg|gyfrifiadureg]] ydy '''Deallusrwydd artiffisial''' sy'n astudiaeth ac yn ymgais i ddatblygu peiriannau a [[meddalwedd]] deallus. Mae'r cyhoeddiadau gorau yn y maes hwn yn diffinio system deallusol fel un sy'n adnabod ei amgylchedd ac yn adweithio iddo er mwyn llwyddo yn ei waith. Credir y gellir ail greu gwybodaeth neu ddeallusrwydd dyn (''[[Homo sapiens]]'') mewn peiriant; mae llawer o nofelau a ffilmiau'n defnyddio'r thema hon.
 
Bathwyd y term gan [[John McCarthy (gwyddonydd)|John McCarthy]],yn 1955, a diffiniodd y term yn " wyddoniaeth a'r peirianeg o greu peiriannau deallusol."
 
Mae'n bwnc eitha arbenigol ac yn un technegol iawn, gyda nifer o is-feysydd sy'n aml iawn yn methu a chyfathrebu â'i gilydd. Y rheswm dros rhai o'r is-feysydd hyn yw ffactorau diwylliannol a chymdeithasol gwahanol. Mae rhai'n unigryw i un sefydliad arbennig, neu weithiau un ymchwilydd arbennig. Mae rhai o'r israniadau'n canolbwyntio ar ateb un math o broblem arbennig ac eraill yn ymchwiliadau amrywiol sy'n edrych ar nifer o dduliau i ateb y broblem.
 
Y broblem (neu'r nod) canolog i ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial yw: [[gwybodaeth]], [[rhesymeg]], cynllunio, synhwyro a'r gallu i symud gwrthrychau. Un o'r prif broblemau canolog ydy "deallusrwydd cryf" (''strong AI'') a cheisir ei ddatrus drwy ddulliau sy'n ymwneud ag [[ystadegaeth]], [[rhesymeg]], [[technoleg gwybodaeth|technoleg gwybodaeth cyfrifiadurol]] ac AI symbolaidd sef y dull draddodiadol.