Tigranes Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Roedd Tigranes yn fab neu nai i un ai [[Artavasdes I, brenin Armenia|Artavasdes I]] neu [[Tigranes I]]. Hyd pan oedd tua 40 oed, bu’n wystl yn llys [[Mithridates II. brenin Parthia| Mithridates II]], brenin [[Parthia]], oedd wedi gorchfygu’r Armeniaid yn [[105 CC]]. Wedi marwolaeth Tigranes I yn [[95 CC]], prynodd Tigranes ei ryddid trwy drosglwyddo tiriogaeth yn [[Atropatene]] i’r Parthiaid.
 
Priododd Cleopatra o Pontus, merch [[Mithridates VI, brenin Pontus]], a gwnaeth gynghrair a Pontus. Eu cytundeb oedd fod Mithridates Iyn geisioceisio concro tiriogaethau Rhufeinig yn y gorllewin tra’r oedd Tigranes yn ymestyn ei diriogaethau yn y dwyrain. Wedi marwolaeth Mithridates II, brenin Parthia yn [[88 CC]], manteisiodd Tigranes ar wendid Parthia i gipio’r tiriogaethau yn yn Atropatene oddi wrthynt. Croesodd [[Afon Euphrates]] i ymgyrchu yn [[Syria]] yn erbyn yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]].
 
Yn [[83 CC]] derbyniodd y Syriaid ef fel brenin. Gorfododd lawer o drigolion y tiriogaethau yr oedd wedi eu concro i symud i’w brifddinas newydd, [[Tigranocerta]]. Erbyn hyn roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r [[Alpau Pontaidd]] yng ngogledd-ddwyrain [[Twrci]] heddiw hyd [[Mesopotamia]]. Ef oedd y cyntaf o frenhinoedd Armenia i fathu ei arian ei hun.