Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Tigranes Fawr"

No change in size ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Yn [[83 CC]] derbyniodd y Syriaid ef fel brenin. Gorfododd lawer o drigolion y tiriogaethau yr oedd wedi eu concro i symud i’w brifddinas newydd, [[Tigranocerta]]. Erbyn hyn roedd ei ymerodraeth yn ymestyn o’r [[Alpau Pontaidd]] yng ngogledd-ddwyrain [[Twrci]] heddiw hyd [[Mesopotamia]]. Ef oedd y cyntaf o frenhinoedd Armenia i fathu ei arian ei hun.
 
Pan orchfygwyd Mithridates, brenin Pontus, gan [[Gweriniaeth Rhufain|y Rhufeiniaid]] dan Lucullus ffodd at Tigranes, ei fab-yng-nghyfraith. Mynnodd Lucullus fod Tigranes yn ildio Mithridates I Rufain, a phan wrthododd ymosododd arno. Ar [[6 Hydref]], [[69 CC]], gorchfygwyd Tigranes gan Lucullus ger Tigranocerta, ac anrheithiwyd y ddinas. Y flwyddyn wedyn bu brwydr rhwng Lucullus a byddin Tigranes a Mithridates ger [[Artaxata]], ac er I’ri’r Rhufeiniaid fod yn fuddugol, roedd eu colledion yn sylweddol.
 
Yn fuan wedyn, cymerwyd lle Lucullus fel cadfridog gan [[Gnaeus Pompeius Magnus]]. Erbyn hyn roedd mab Tigranes, hefyd o’r enw Tigranes, wedi gwrthryfela yn ei erbyn, ac wedi I’wi’w dad orchfygu byddin a roddwyd iddo gan [[Phraates III. brenin Parthia]], aeth at Pompeius Ii ofyn am Gymorth yn erbyn ei dad. Yn [[66 CC]] ymosododd Pompeius ar Armenia gyda mab Tigranes, a’i orchfygu. Ildiodd Tigranes, oedd erbyn hyn tua 75 oed, i Rufain, a gadawodd Pompeius iddo gadw rhan o’i deyrnas yn gyfnewid am 6,000 talent o arian. Bu’n teyrnasu dan awdurdod Rhufain hyd ei farwolaeth yn [[55 CC]].
 
37,236

golygiad