Quintus Sertorius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llyfr
Llinell 9:
Dychwelodd Sulla o'r dwyrain yn [[83 CC]], a bu raid i Sertorius ffoi i Sbaen. Bu'n ymladd yn erbyn cefnogwyr Sulla yn Sbaen a Gogledd Affrica, lle cipiodd ddinas Tingis ([[Tangier]] heddiw). Gyrrodd gadfridog Sulla, [[Q. Caecilius Metellus Pius]], allan o [[Lusitania]]. Roedd Sertorius yn gadfridog galluog dros ben, a chanddo ddylanwad mawr dros frodorion Sbaen. Rhoddodd un ohonynt ewig gwyn iddo, a dywedid fod yr ewig yma yn trosglwyddo iddo negeseuon gan y dduwies [[Diana (duwies)|Diana]].
 
Yn [[77 CC]] daeth [[Marcus PerpennaPerperna Vento]] o Rufain gyda byddin i'w gynorthwyo, a'r un flwyddyn daeth [[Gnaeus Pompeius Magnus]] o Rufain i gynorthwyo Caecilius Metellus. Enillodd Sertorius nifer o fuddugoliathau dros Metellus a Pompeius. Gwnaeth gytundeb a môrladron [[Cilicia]] a dechreuodd drafodaethau gyda [[Mithridates VI, brenin Pontus]]. Fodd bynnag llofruddiwyd ef mewn gwledd gan Perpenna Vento yn [72 CC]]. Hebddo ef, gorchfygwyd Perpenna gan Pompeius a rhoddwyd diwedd ar y rhyfel.
 
==Llyfryddiaeth==
* Adrian Goldsworthy ''In the name of Rome: the men who won the Roman Empire'' (Phoenix, 2003) ISBN 0-75381-789-6