Sesiwn Fawr Dolgellau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sianwyn (sgwrs | cyfraniadau)
Sianwyn (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 1:
Gŵyl gerddorol flynyddol [[cerddoriaeth Geltaidd|Geltaidd]] a [[cerddoriaeth byd|rhyngwladol]] a gynhaliwyd yn strydoedd nhref [[Dolgellau]], [[Gwynedd]] oedd '''Sesiwn Fawr Dolgellau'''. Cafodd ei sefydlu yn [[1992]] gan Ywain Myfyr, Huw Dylan Owen, Esyllt Jones, Elfed ap Gomer ac Alun Owen a bu'n rhedeg tan [[2008]]. Y nôd oedd trefnu gŵyl ar strydoedd Dolgellau a hynny yn rhad ac am ddim i'r cyhoedd. Datblygodd Sesiwn Fawr Dolgellau i fod yn un o brif wyliau cerddorol Ewrop, a llwyddodd i ddenu perfformwyr o sawl gwlad led-led y Byd.
 
Rhwng 1992 a 2000, cynhaliwyd y Sesiwn fel gŵyl gerddoriaeth werin gyda'r prif lwyfannau wedi'i leoli yn Y Stryd Fawr, yng nghanol tref Dolgellau. Ni chodwyd tâl mynediad i'r wŷl yn y dyddiau cynnar, ond wrth i'r wŷl dyfu bu angen cael safle ehangach, ac yn 2001 cynhaliwyd y Sesiwn ar y Marian, ar lan yr [[Afon Wnion]], ar gyrion Dolgellau, am y tro cyntaf. Esblygodd yr wŷl i fod yn un o wyliau roc mwyaf Cymru, gan gynnal llwyfan i rai o'r enwau mwyaf yn y byd cerddoriaeth rhyngwladol. Yn 2000 enilliodd yr wyl wobr digwyddiad gymraeg y flwyddyn yn sgil cystadleuaeth difrifol gan digwyddial golf a gynhalwyd yn y de. Rhoddodd y wobr yn unfrydol gan y beirniaid i Sesiwn Fawr am fod yr wyl yn cadarnhau fod rhwngth twristiaeth a dathliad o ddiwylliant Cymraeg gall tref a gymuned weld twf econmaidd.
 
Mae'r bandiau a chantorion a berfformiodd yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn cynnwys: [[Super Furry Animals]], [[Cerys Matthews]], [[Anweledig]], [[Meic Stevens]], [[Burning Spear]], [[Bryn Fôn]], [[Iwcs a Doyle]], [[Bob Delyn a'r Ebillion]], [[Gai Toms]], [[The Alarm]], [[The Levellers]], [[Capercaillie]], [[Oysterband]], [[Susheela Raman]], [[Sian James]], [[Dick Gaughan]], [[The Saw Doctors]], [[Sibrydion]], [[Mozaik]], [[Sharon Shannon]], [[Karine Polwart]], [[Brendan Power]], [[Shooglenifty]], [[Gwerinos]], [[Frizbee]], [[Ar Log]], [[Meinir Gwilym]], a’r [[Y Moniars|Moniars]].
Llinell 14:
* [http://www.sesiwnfawr.co.uk/ Sesiwn Fawr Dolgellau]
* [http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/33447270 Erthygl BBC Sesiwn Fawr - Posteri]
* [http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/32661225 Erthygl BBC - Dadansoddiad Ywain Myfyr 'Hwyl ar y Gwyliau']
 
== Cyfeiriadau ==