Lucius Cornelius Sulla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Cadfridog, gwleidydd a ''[[dictator]]'' [[Gweriniaeth Rhufain|Rhufeinig]] oedd '''Lucius Cornelius Sulla Felix'''(tua [[138 CC]] - [[78 CC]]).
 
Roedd teulu Sulla, y Cornelii, o dras ucheldwroluchel, ond wedi mynd yn dlawd erbyn iddo ef gael ei eni. Dywedir iddo dreulio ei ieuenctid ymhlith pobl o safle gymdeithasol isel, yn enwedig actorion, ac iddo ddechrau carwriaeth a'r actor [[Metrobius]] a barhaodd trwy ei oes.
 
Yn 107 CC, penodwyd Sulla i swydd [[quaestor]] i gynorthwyo [[Gaius Marius]], oedd wedi ei ethol yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] am y flwyddyn. Cafodd Marius y dasg o arwain byddin Rhufain yn y rhyfel yn erbyn [[Jugurtha]], brenin [[Numidia]] yng ngogledd Affrica. Llwyddodd i orchfygu Jugurtha, i raddau helaeth oherwydd i Sulla berswadio [[Bocchus]], brenin [[Mauretania]], i fradychu Jugurtha, oedd wedi ffoi ato am gymorth. Rhwng [[104 CC]] a [[101 CC]] bu'n ymladd gyda Marius yn erbyn llwythau Almaenig y [[Cimbri]] a'r [[Teutones]], a bu ganddo ran amlwg ym muddugoliaeth [[Brwydr Vercellae]].